Caer Rufeinig Brithdir

Oddi ar Wicipedia
Caer Rufeinig Brithdir
Mathcaer Rufeinig, adeilad Rhufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.753324°N 3.821292°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME080 Edit this on Wikidata

Ceir olion Caer Rufeinig Brithdir ger pentref Brithdir, de Gwynedd; cyfeiriad grid SH772188.

Mae'n gaer Rufeinig fechan mewn safle strategol bwysig ar gyffordd y ffordd Rufeinig o Gaer Gai a Chaer o'r dwyrain â Sarn Helen sy'n ei chysylltu â Tomen y Mur i'r gogledd a chaer Pennal i'r de. Ni ddarganfuwyd y gaer gan archaeolegwyr tan yn gymharol ddiweddar. Y cwbl sydd i'w gweld o'r gaer heddiw yw llwyfan ddyrchafedig tua 50m², ac sydd wedi dioddef cryn dipyn trwy waith amaeth dros y blynyddoedd.[1]

Cadw[golygu | golygu cod]

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: ME080.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Ceir disgrifiad o'r safle yn

  • Journal of Roman Studies cyfrol LI (1961), tud. 130.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, Llundain, 1978), tud. 108.
  2. Cofrestr Cadw.


Caerau Rhufeinig Cymru
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis


Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.