Domitian

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Domitian

Domitian (Titus Flavius Domitianus) (24 Hydref 51 - 18 Medi 96) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 81 a 96.

Domitian oedd mab ieuengaf Vespasian a Domitila. Ei frawd hŷn, Titus oedd ffefryn ei dad. Rhoddodd ei dad yr addysg orau posibl i Titus, ond cafodd Domitian lawr llai o addysg. Yr oedd gan Domitian ddau fab, ond bu'r ddau farw yn ieuanc. Pan fu farw Titus, ar 13 Medi 81, daeth Domitian yn ymerawdwr. Yn ystod ei deyrnasiad bu brwydro ym Mhrydain, Germania ac yn arbennig yn erbyn Decebalus, brenin Dacia o gwmpas Afon Donaw. Ni fu'n llwyddiannus, ac yn y diwedd bu'n rhaid iddo dalu swm mawr o arian i'r Daciaid i sicrhau heddwch. Bu hefyd yn brwydro yn erbyn y Sarmatiaid.

Llofruddiwyd ef ar 18 Medi 96 yn 45 oed, yn dilyn cynllwyn gan ei wraig Domicia a phennaeth Gard y Praetoriwm. Penododd y senedd Nerva fel ei olynydd.


She-wolf suckles Romulus and Remus.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato