Trawscoed

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Safle caer Rufeinig a phlasdy hanesyddol yng nghanolbarth Ceredigion yw'r Trawscoed. Mae'n gorwedd ym mhlwyf Llanafan a chymuned Trawsgoed, ar lan afon Ystwyth, tua 3 milltir i'r dwyrain o bentref Llanilar.

Caer Rufeinig y Trawscoed[golygu]

Darganfuwyd caer y Trawscoed yn 1959. Mae'n gorwedd ar darn o dir gwastad ar lan ogleddol afon Ystwyth (cyfeirnod OS: 670 727). Mae'n amlwg iddi gael ei chodi gan y Rhufeiniaid i warchod rhyd bwysig ar Sarn Helen, y ffordd Rufeinig bwysicaf yng ngorllewin Cymru, sy'n cysylltu caer Rufeinig Caerhun yn y gogledd a dinas gaerog Maridunum yn y de. Mae'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng caer Pennal i'r gogledd a Llanio i'r de. Damcaniaethir fod ffordd Rufeinig arall yn rhedeg rhwng y Trawscoed a chaerau Caersws, gyda chaer fechan Cae Gaer yn ddolen rhyngddyn nhw.

Mae llwybr y B4575 fodern yn rhedeg trwy'r safle. Mae'r gaer yn mesur tua 2 hectar. Dim ond olion y muriau allanol - o dywarch a phren yn wreiddiol - sydd i'w gweld. Credir mai byr fu parhad y gaer ar ôl iddi gael ei chodi yn negawdau olaf y ganrif 1af OC.

Plasdy'r Trawscoed[golygu]

Codwyd plasdy'r Trawscoed chwarter miltir i'r gogledd o'r gaer Rufeinig yn yr 16eg ganrif. Am ganrifoedd bu'n gartref i'r Fychaniaid, un o deuluoedd uchelwrol hynaf Ceredigion. Yr aelod enwocaf o'r teulu efallai oedd Syr John Vaughan, a urddwyd yn farchog yn 1668.

Cyfeiriadau[golygu]

  • T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1953)
  • Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Llundain, 1978)
  • I. A. Richmond, 'Roman Wales' yn Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965)


Caerau Rhufeinig Cymru Segontium.JPG
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis