Caer Rufeinig Gelli-gaer

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Caer Rufeinig Gelligaer)
Caer Rufeinig Gelli-gaer
Mathsafle archaeolegol, caer Rufeinig, adeilad Rhufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.66732°N 3.254308°W Edit this on Wikidata
Map

Saif olion Caer Rufeinig Gelligaer yn ardal Gelli-gaer, Caerffili, cyfeiriad grid ST133972.

Roedd gan y gaer arwynebedd o bron dair acer. Ychydig i'r dwyrain roedd baddondy, a ystyrir yn un o'r esiamplau gorau i'w ddarganfod yng Nghymru. Bu cloddio archaeolegol yma yn 1899-1901. Cafwyd hyd i arysgrif oedd yn cyfeirio at bumed conswliaeth yr ymerawdwr Trajan (103 OC), ac yn dweud i'r gaer gael ei hadeiladu gan y lleng Legio II Augusta. Adeiladwyd y gaer mewn carreg o'r dechrau, yn wahanol i'r mwyafrif o gaerau Rhufeinig Cymru.

Credir i'r garsiwn adael y gaer tua 196, ond iddi gael ei hatgyweirio a'i defnyddio eto ychydig yn ddiweddarach.

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: GM016.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Symons, S. Fortresses and treasures of Roman Wales (Breedon Books, 2009)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Caerau Rhufeinig Cymru
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis