Caer Rufeinig Caerllion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa o'r olion Rhufeinig

Lleng-gaer enfawr o'r cyfnod Rhufeinig ydy Caer Rufeinig Caerllion, Caerllion, Sir Casnewydd; cyfeiriad grid ST338906. Dyma bencadlys y Rhufeiniaid yn eu hymgyrch i orchfygu brodorion De Cymru.

I'r Rhufeiniwr o leng Legio II Augusta, fel "Isca Silurum" gan mai yn nhiriogaeth y Silwriaid yr oeddent neu fel 'Isca Augusta yr adnabyddir y lleng-gaer hon. Symudodd y lleng i Gaerllion tua'r flwyddyn 74, a bu yma am ganrifoedd, efallai tan ddechrau'r bedwaredd ganrif. Mae'r olion o'r cyfnod yma yn parhau i fod yn nodwedd amlycaf Caerllion. Ymhlith yr olion mae olion barics y llengfilwyr, y baddondy, y muriau oedd yn amgylchynu'r gaer, a'r amffitheatr tu allan i'r muriau. Enw Rhufeinig ar y dref oedd 'Iskalis' a ddaeth o enw'r afon: Wysg.

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM: MM252, MM230 ac eraill.[1]

Amffitheatr Rhufeinig y gaer.

Mae olion Rhufeinig wedi cael eu darganfod yn ddiweddar mewn rhan arall o Gaerllion, sef, "The Mynde".[2]

Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion yw prifddinas y Brenin Arthur.

Yr amffitheatr[golygu]

Yr Amffitheatr Rufeinig

Arferai'r trigolion lleol alw'r amffitheatr yn "Fwrdd Crwn Arthur" oherwydd ei siap a'r cysylltiad honedig gydag Arthur. Rhwng 1909 ac 1926 cafwyd cloddio archaeolegol o dan arweiniad Victor Erle Nash-Williams, a ddaeth i'r canlyniad mai oddeutu 90 OC y cychwynwyd ar y gwaith o'i godi. Erys y rhan fwyaf ohono heb ei gloddio. Siap ofal sydd iddo mewn gwirionedd a chredir y gallesid ddal oddeutu chwe mil o bobl. Mae'n cynnwys clawdd pridd yn cael ei gynnal gan furt o gerrig, lle mae wyth mynedfa i'r man perfformio.[3]

Golygfa panoramig 360° o'r amffitheatr.

Caerau Rhufeinig cyfagos[golygu]

Ceir Caer Penrhos gerllaw: rhif SAM MM011; cyfeiriad grid ST342917.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. The Mynde, Caerleon
  3. Over Wales Cyhoeddwyd Pitkin Unichrome 2000

Dolen allanol[golygu]


Caerau Rhufeinig Cymru Segontium.JPG
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis