Y Gaer
Caer Rufeinig yn ardal Brycheiniog, de Powys, yw Y Gaer (Lladin: Cicvcivm; hefyd Brecon Gaer yn Saesneg). Gorwedd ar lan Afon Wysg ger pentref Aberysgir, tua dwy filltir i'r gorllewin o dref Aberhonddu; cyfeiriad grid SO003296. Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: BR001.[1]
Lleolir y gaer ar drum isel uwchben cymer afonydd Wysg ac Ysgir. Sefydlwyd y gaer yma gan y Rhufeiniaid yn fuan ar ôl 80 OC i reoli'r ardal. Roedd yn gartref i garsiwn yr ala Vettonum, oedd yn cynnwys 500 o farchogion.
Cloddiwyd y safle yn 1924-5. Dengys tystiolaeth y cloddio fod y gaer bridd a phren wreiddiol wedi cael ei droi'n gaer gerrig tua'r flwyddyn 140 (yng nghyfnod Trajan yn ôl pob tebyg). Bu garsiwn yno tan o gwmpas 200 ac ymddengys iddi gael ei defnyddio eto tua'r flwyddyn 300. Darganfuwyd olion y pencadlys a baddondy Rhufeinig.
Gorweddai dref fechan ger y gaer, tu allan i'r porth gogleddol. Roedd yna rwydwaith o ffyrdd o gwmpas y gaer yn ei chysylltu â chaerau Caerdydd, Caerwent a Chaerleon i'r de, Llanymddyfri a Maridunum (Caerfyrddin) i'r gorllewin, a Chastell Collen i'r gogledd.
Heddiw gellir gweld y pyrth gorllewinol a deheuol a rhannau o'r muriau; ychwanegwyd at yr rhain yn yr Oesoedd Canol.
Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: BR001.[1]
Llyfryddiaeth [golygu]
- V. E. Nash-Williams, The Roman Frontier in Wales (1969)
Cyfeiriadau [golygu]
| Caerau Rhufeinig Cymru | |
|---|---|
| Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis | |