Afon Ysgir

Oddi ar Wicipedia
Afon Ysgir
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9572°N 3.4544°W Edit this on Wikidata
Map
Afon Ysgir ym Mhont-faen

Afon fynyddig yn ardal Brycheiniog, de Powys, yw Afon Ysgir (llurguniad Saesneg: Yscir). Mae'n un o ledneintiau Afon Wysg. Ei hyd yw tua 12 milltir.

Gorwedd prif darddle'r afon yn uchel ar Fynydd Epynt ger copa Drum-ddu (474 m), i'r de o bentrefi Maesmynys a Llangamarch. Am y rhan gyntaf o'i chwrs ei henw yw Afon Ysgir Fawr. Llifa i gyfeiriad y de gan ymuno ag Afon Ysgir Fechan ar ôl mynd heibio i bentref Merthyr Cynog. Wedi i'r ddwy afon ymuno ger pentref Pont-faen, llifa'r Ysgir i lawr i'w chymer yn Afon Wysg ger pentref Aberysgir, tua 2 filltir i'r gorllewin o Aberhonddu.

Mae'r afon yn rhoi ei enw i gymuned Ysgir.