Caerwent
Mae Caerwent ( weithiau Caer-went) yn bentref yn Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru. Pan goncrwyd llwyth y Silwriaid gan y Rhufeiniaid, crewyd canolfan a thref farchnad iddynt dan yr enw Venta Silurum yn fuan wedi'r flwyddyn 78 gan y Llywodraethwr Rhufeinig Julius Frontinus. Cyn hynny roedd gan y Silwriaid fryngaer bwysig gerllaw yng Nghoed Llanmelin. Venta Silurum yw'r dref Rufeinig y gwyddir fwyaf amdani yng Nghymru, a'r ail fwyaf adnabyddus ym Mhrydain ar ôl Calleva Atrebatum (Silchester).
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Caerwent Rufeinig [golygu]
Roedd y dref Rufeinig yn dilyn y patrwm arferol, gyda dwy brif ffordd yn ffurfio croes a mur a ffos o'i hamgylch. Gydag arwynebedd o 300 - 350 medr sgwar roedd yn dref gymharol fechan. Yn y canol roedd y Fforwm, gyda sgwar agored a siopau a Basilica o'i amgych. I'r dwyrain o'r Fforwm mae teml Rufeinig, oedd mae'n debyg wedi ei chysegru i'r duw Mawrth, ac i'r gogledd mae Amffitheatr. Yr oedd o leiaf ddau faddondy yn y dref. Ar bob ochr i'r briffordd a redai drwy'r dref roedd yna resi o siopau a sawl teml. Mae darnau sylweddol o'r mur Rhufeinig i'w gweld o hyd, hyd at 5 medr o uchder mewn mannau. Atgyfnerthwyd y muriau hynny â thyrau lle y cedwid arfau. Y tu allan i'r muriau y ceid y mynwentydd. Mae tai y pentref modern yn gorchuddio rhan o'r hen safle Rufeinig.
Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid [golygu]
Credir i'r boblogaeth adael y dref yn y bumed ganrif, fel gyda llawer o ddinasoedd a threfi Rhufeinig Prydain, ond mae'n bosibl i Gaerwent barhau fel canolfan i Deyrnas Gwent ar ôl y cyfnod Rhufeinig. Sefydlwyd clas yng Nghaerwent gan sant o Wyddel o'r enw Tatheus tua'r 5fed ganrif. Ar ôl y Goncwest Normanaidd codwyd castell mwnt a beili ar y safle.
Darllen pellach [golygu]
- O.E. Craster, Caerwent Roman City (HMSO, Llundain, 1951; sawl argraffiad ers hynny)
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Caerwent
- (Saesneg) Erthygl yn Gwyddiondur Safleoedd Clasurol Princeton
Aberffrwd · Abergwenffrwd · Betws Newydd · Brynbuga · Bryngwyn · Caerwent · Cas-gwent · Castell-meirch · Cemais Comawndwr · Cilgwrrwg · Cil-y-Coed · Clydach · Coed Morgan · Coed-y-mynach · Cwmcarfan · Cwm-iou · Drenewydd Gelli-farch · Y Dyfawden · Yr Eglwys Newydd ar y Cefn · Y Fenni · Gaer-lwyd · Gilwern · Glasgoed · Goetre · Gofilon · Y Grysmwnt · Gwehelog · Gwernesni · Gwndy · Yr Hencastell · Little Mill · Llanarth · Llanbadog · Llandegfedd · Llandeilo Bertholau · Llandeilo Gresynni · Llandenni · Llandidiwg · Llanddewi Nant Hodni · Llanddewi Rhydderch · Llanddewi Ysgyryd · Llanddingad · Llanddinol · Llanelen · Llanelli · Llaneuddogwy · Llanfable · Llanfaenor · Llanfair Cilgedin · Llanfair Is Coed · Llanfihangel Crucornau · Llanfihangel Tor-y-mynydd · Llanfihangel Troddi · Llanfihangel-y-gofion · Llanfihangel Ystum Llywern · Llanfocha · Llanffwyst · Llangaeo · Llangatwg Feibion Afel · Llangatwg Lingoed · Llangiwa · Llangofen · Llan-gwm · Llangybi · Llanhenwg · Llanisien · Llanllywel · Llanofer · Llanoronwy · Llan-soe · Llantrisant · Llanwarw · Llanwenarth · Llanwynell · Llanwytherin · Y Maerdy · Magwyr · Mamheilad · Matharn · Mounton · Nant-y-deri · Newbridge-on-Usk · Y Pandy · Pen-allt · Penrhos · Pen-y-clawdd · Porth Sgiwed · Pwllmeurig · Rogiet · Rhaglan · St. Arvans · Sudbrook · Trefynwy · Tre'r-gaer · Tryleg · Tyndyrn · Ynysgynwraidd