Clydach, Sir Fynwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd Clydach (gwahaniaethu).

Pentref bychan yn Sir Fynwy yw Clydach, tua thair milltir i'r gorllewin i dref Y Fenni. Mae'r pentref wedi ei rannu'n ddwy gan heol brysur Blaenau'r Cymoedd.

Tyfodd y pentref o gwmpas y gwaith dur ar ochr ddeheuol y cwm. Roedd yn ei anterth ar ddechrau’r 19eg ganrif, ac erbyn heddiw, dim ond adfeilion sy’n weddill o’r gwaith. Mae’r gymuned bellach yn wledig ei natur a chymharol brin ei chyfleusterau. Ym mis Gorffennaf 2006, caewyd ysgol y pentref gan Gyngor Sir Fynwy.


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato