Llanddewi Nant Hodni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanddewi Nant Hodni o'r bryniau.

Pentref bychan gwledig yn Sir Fynwy yw Llanddewi Nant Hodni neu Llanddewi Nant Honddu (weithiau: Llanhonddu neu Llanhodni; Saesneg: Llanthony; weithiau Llantoni). Fe'i lleolir 10 milltir i'r gogledd o'r Fenni yng ngogledd-orllewin Sir Fynwy ar ffordd fynydd sy'n arwain i Gapel-y-ffin a'r Gelli Gandryll. Saif ar lan Afon Honddu (mae enw'r pentref yn cadw'r hen ffurf ar y gair 'Honddu', sef 'Hodni').

Saif y pentref hanner ffordd i fyny cwm anghysbell Dyffryn Ewias, ar ymyl ddwyreiniol y Mynydd Du a Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r tirlun o gwmpas yn drawiadol am ei unigrwydd.

Yn ymyl y pentref ceir adfeilion Priordy Llanddewi Nant Hodni, a sefydlwyd gan yr arglwydd Normanaidd William de Lacy, arglwydd Ewias Lacy, ar droad yr 12fed ganrif. Ond cyn hynny roedd y safle eisoes yn adnabyddus fel clas Cymreig Llanddewi Nant Hodni. Ymwelodd Gerallt Gymro â'r priordy newydd yn 1188 ac mae'n dweud mai dau feudwy Cymreig a sefydlodd yr hen glas. 'Llanantoni', a droes yn 'Llantoni' dros y blynyddoedd, oedd enw'r sefydliad Awstinaidd newydd, sy'n rhoi i'r pentref ei enw Saesneg heddiw (Llanthony).

Gweler hefyd[golygu]