Llandidiwg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Sant Pedr, Llandidiwg.

Pentref a phlwyf yn Sir Fynwy yw Llandidiwg (Saesneg: Dixton). Fe'i lleolir tua milltir i'r gogledd o dref Mynwy yng ngogledd-ddwyrain y sir, heb fod nepell o'r ffin â Lloegr.

Llifa Afon Gwy heibio i Landidiwg. Ar ei lan ceir eglwys y plwyf, sef Eglwys Sant Pedr. Credir fod yr adeilad gwyngalchog hwn yn dyddio yn ôl i'r 12fed ganrif yn wreiddiol ac y bu canolfan grefyddol yno cyn hynny hefyd.


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato