Y Fenni
Cyfesurynnau: 51°49′26″N 3°01′00″W / 51.824°N 3.0167°W
| Y Fenni | |
| Saesneg: Abergavenny | |
Neuadd y Farchnad a'r cloc yng Nghanol tref y Fenni |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 14,055 |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SO295145 |
| Cymuned | Y Fenni |
| Prif ardal | Sir Fynwy |
| Sir seremonïol | Gwent |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | Y FENNI |
| Rhanbarth cod post | NP7 |
| Cod deialu | 01873 |
| Yr Heddlu | Gwent |
| Tân | De Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Mynwy |
| Cynulliad Cymru | Mynwy |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Fynwy | |
Mae'r Fenni (Saesneg: Abergavenny) yn dref farchnad yn Sir Fynwy. Lleolir tua 15 milltir (24 km) i'r gorllewin o Drefynwy ar yr A40 ac ar yr A465, a thua 6 milltir (10 km) i'r de orllewin o'r ffin â Swydd Henffordd, a Lloegr. O'i wreiddiau yn gaer Rhufeinig, deuai'n dref gaerog ganol-oesol o fewn Y Mers. Y mae gan y dref adfeilion castell carreg a adeiladwyd yn sgil dyfodiad y Normaniaid.
Hysbysebir y dref fel "Porth i Gymru (Gateway to Wales). Fel yr awgrymir gan yr enw Saesneg, lleolir y Fenni ar aber afon Gafenni ar afon Wysg. Amgylchynir y dref gan ddau fynydd, sef Blorens (559m) a Pen-y-Fâl (596m), a phum bryn: Ysgyryd Fawr, Ysgryd Fach, Deri, Rholben a Mynydd Llanwenarth.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Gwreiddiau'r dref a'i henw [golygu]
Roedd Gobannium yn gaer Rufeinig a oedd yn amddiffyn y ffordd ar hyd dyffryn Wysg a oedd yn cysylltu Burrium (Brynbuga) ac Isca Augusta (Caerllion) yn y de â Cicucium (Y Gaer) a'r canolbarth. Adeiladwyd hefyd er mwyn trechu'r Silwriaid brodorol. Cafwyd hyd i adfeilion y gaer hon yn y 1960au pan adeiladwyd y swyddfa bost newydd.
Daw'r enw "Y Fenni" o'r hen enw "Abergafenni". Enwyd afon Gafenni ar ôl y gaer Rufeinig "Gobannium", a enwyd ar ôl yr hen dduw Celtaidd "Gobannos". Mae hwnnw'n gyfarwydd i ni heddiw fel Gofannon fab Dôn yn Culhwch ac Olwen. Mae ei enw'n gytras â'r gair 'gof', yn awgrymu cysylltiadau hynafol rhwng gofaint ag ardal y Fenni.
Cyfnod y Normaniaid [golygu]
Tyfai'r Fenni'n dref o dan reolaeth Arglwyddi'r Fenni. Hamelin de Balun, o Ballon, Maine-Anjou, ger Le Mans, Ffrainc, oedd y barwn cyntaf. Sefydlodd abaty Benedictaidd yn y 11eg ganrif, lle saif Eglwys y Santes Fair erbyn hyn. Derbyniai'r eglwys honno degwm gan y castell a chan y dref. Ceir cerfluniau diddorol yno.
Oherwydd ei lleoliad ar y ffin gwelai'r dref sawl rhyfel yn ystod y 12fed a'r 13eg ganrif. Ym 1175, lladdwyd holl benaethiaid Cymreig yr ardal gan Wilym Brewys, tad y Gwilym Brewyd a geid yn hanes Siwan gan Saunders-Lewis. Gwahoddodd Gwilym y penaethiaid lleol i'w gastell am wledd ddydd Nadolig. Rhoes y Cymry ei arfau iddo er mwyn dod i mewn i'r castell, ond yn lle datrys y problemau a oedd ganddynt, fe'u bradychwyd gan Wilym a'u lladd. Mae Gerallt Gymro yn adrodd i'r Cymry gipio'r castell o Frewys ym 1182.
1300 i 1900 [golygu]
Ymosododd Owain Glyndŵr â'r dref ym 1404. Yn ôl yr hanes, daeth gwŷr Glyndŵr i mewn i'r dref â chymorth Cymraes leol a adawodd iddynt ddod i mewn drwy borth ar Stryd y Farchnad liw nos. Agorodd y drws a daeth y fyddin i mewn yn llosgi'r dref, ond yn gadael y castell i fod. Gelwir Stryd y Farchnad "Traitors' Lane" hyd heddiw.
Sefydlwyd Ysgol y Brenin Harri VIII ym 1542.
Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr daeth y Brenin Siarl I i'r Fenni er mwyn cymryd rhan yn achos llys Syr Trefor Williams, a seneddwyr eraill.
Sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni ar 2 Tachwedd 1833, yn y Sun Inn yn Y Fenni.
Hanes diweddarach [golygu]
Carcharwyd Rudolph Hess yng Nghwrt Maindiff yn ystod yr ail Ryfel Byd, ar ôl iddo hedfan i'r Alban.
Marchnadoedd [golygu]
Marchnad Wartheg [golygu]
Cynhelir marchnad wartheg yn y Fenni ar y safle bresennol ers 1863. Rhwng 1825 a 1863 cynhelid marchnad ddefaid ar Stryd y Castell, er mwyn atal y preswylwyr rhag gwerthu eu defaid ar hyd strydoedd y dref. Mae'r farchnad yn cael ei rheoli heddiw gan Abergavenny Market Auctioneers Ltd., sydd yn cynnal arwerthiannau rheolaidd yno. Gwerthir defaid a phorthiant ar ddydd Mawrth, ac weithiau gwerthir gwartheg ar ddydd Gwener.
Wrth i farchnad wartheg Casnewydd gau, cynhelir y farchnad honno yn y Fenni bob dydd Mercher.
Y Neuadd Farchnad [golygu]
Ceir amryw farchnadoedd yn y neuadd farchnad.
Diwylliant [golygu]
- Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni ym 1838 ac ym 1913.
- Ym 1968 cyhoeddwyd y gân "Abergavenny" gan Marty Wilde.
- Mae gan y Fenni tair gefeilldref, sef Ostringen, Beaupreau a Sarno.
- Ceir cyfeiriadau at y Fenni yn llyfrau Sherlock Holmes a Harry Potter.
- Ymhlith aelodau cymdeithas Cymreigyddion y Fenni oedd yr hanesydd Carnhuanawc.
- Ceir croes eglwysig o bwys gerllaw, sef Croes Eglwys St Issau.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Castell y Fenni
- Neuadd y Dref
- Neuadd y Farchnad
- Ysbyty Pen-y-Fal
Enwogion [golygu]
- Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer (1802-1896)
- Malcolm Nash (g. 1945), cricedwr
- John Osmond (g. 1946), newyddiadurwr
- Y llenor Owen Sheers (g. 1974 yn Suva, Fiji)
Gefeilldrefi [golygu]
Aberffrwd · Abergwenffrwd · Betws Newydd · Brynbuga · Bryngwyn · Caerwent · Cas-gwent · Castell-meirch · Cemais Comawndwr · Cilgwrrwg · Cil-y-Coed · Clydach · Coed Morgan · Coed-y-mynach · Cwmcarfan · Cwm-iou · Drenewydd Gelli-farch · Y Dyfawden · Yr Eglwys Newydd ar y Cefn · Y Fenni · Gaer-lwyd · Gilwern · Glasgoed · Goetre · Gofilon · Y Grysmwnt · Gwehelog · Gwernesni · Gwndy · Yr Hencastell · Little Mill · Llanarth · Llanbadog · Llandegfedd · Llandeilo Bertholau · Llandeilo Gresynni · Llandenni · Llandidiwg · Llanddewi Nant Hodni · Llanddewi Rhydderch · Llanddewi Ysgyryd · Llanddingad · Llanddinol · Llanelen · Llanelli · Llaneuddogwy · Llanfable · Llanfaenor · Llanfair Cilgedin · Llanfair Is Coed · Llanfihangel Crucornau · Llanfihangel Tor-y-mynydd · Llanfihangel Troddi · Llanfihangel-y-gofion · Llanfihangel Ystum Llywern · Llanfocha · Llanffwyst · Llangaeo · Llangatwg Feibion Afel · Llangatwg Lingoed · Llangiwa · Llangofen · Llan-gwm · Llangybi · Llanhenwg · Llanisien · Llanllywel · Llanofer · Llanoronwy · Llan-soe · Llantrisant · Llanwarw · Llanwenarth · Llanwynell · Llanwytherin · Y Maerdy · Magwyr · Mamheilad · Matharn · Mounton · Nant-y-deri · Newbridge-on-Usk · Y Pandy · Pen-allt · Penrhos · Pen-y-clawdd · Porth Sgiwed · Pwllmeurig · Rogiet · Rhaglan · St. Arvans · Sudbrook · Trefynwy · Tre'r-gaer · Tryleg · Tyndyrn · Ynysgynwraidd