John Osmond

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfarwyddwr y grŵp syniadau Y Sefydliad Materion Cymreig yw John Osmond (ganwyd 1946). Mae wedi cyfrannu tuag at nifer o lyfrau ar wleidyddiaeth a diwylliant Cymru a throsglwyddiad cyfrifoldebau gwleidyddol i’r Senedd yng Nghaerdydd. Yn y gorffennol bu Osmond yn newyddiadurwr a chynhyrchydd rhaglenni teledu.

Bywyd Personol ac Addysg[golygu]

Cafodd Osmond ei eni yn Y Fenni, Sir Fynwy yn 1946. Mi roedd ef yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg King Henry VIII cyn cofrestru i ddarllen gradd BA yn Athroniaeth a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste. Cwbwlhaodd ei gradd yn yr 1960au. Yn 2004 rhoddi MA anrhydeddus i Osmond gan Prifysgol Cymru.

Gyrfa[golygu]

Dechreuodd gwaith gyda Yorkshire Post, wedi iddo graddio, fel gohebydd. Yn yr 1970au bu Osmond yn cymryd swydd fel gohebydd materion Cymreig ar gyfer papur newydd y Western Mail. Rhwng 1980–1982 bu Osmond yn olygydd y cylchgrawn materion cyfoes Cymraeg "ARCADE - Wales Fortnightly". Cymerodd rol gyda HTV yn yr 1980au fel cynhyrchydd rhaglenni, a bu Osmond yn chwarae rhan yn ddechreuad y rhaglen materion cyfoes "Wales This Week". Yn cynnwys ei waith gyda HTV, by Osmond yn cynhyrchydd ar gyfer y rhaglen teledu Sianel 4 "The Divided Kingdom". Ysgrifennodd llyfr i cyd fynd gyda'r rhaglen yn 1988. Cymerodd swydd Dirprwy Golygydd y papur newydd "Wales on Sunday" rhwng 1988 a 1990.

Yn yr 1990au mi wnaeth Osmond ffurfio cwmni teledu Agenda Productions, a wnaeth cynhyrchu nifer o raglenni teledu ar gyfer y BBC, HTV, Sianel 4, S4C a STV.

Dechreuodd ei swydd presennol fel cyfarwyddwr Y Sefydliad Materion Cymraeg yn 1996. Yn etholiad i Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2007, ceisiodd Osmond ennill set etholaeth Preseli Pembrokeshire fel cynrychiolydd Plaid Cymru. Ond cynrychiolydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, enillodd y set.

Heddiw mae Osmond yn dal nifer o swyddi:

  • Cyfaill Ymchwil Hyn Anrhydeddus gyda'r Uned Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
  • Cyfaill Sefydliad Prifysgol Cymru, Caerdydd.
  • Aelod Cyfrwng Hyrwyddiad Llenyddiaeth Cymraeg.
  • Aelod ar Bwrdd Canolfan Bywydeg a Meddygaeth Darwin yn Sir Benfro.
  • Aelod ar Bwrdd Brawdle Datblygiad Cynnaladwy Cymru

Cyhoeddiadau[golygu]

  • Crossing the Rubicon: Coalition Politics Welsh Style (IWA, 2007)
  • Myths, Memories and Futures: The National Library and National Museum in the Story of Wales (Editor, IWA, 2007)
  • Time to Deliver: The Third Term and Beyond (golygydd, IWA, 2006)
  • Welsh Politics Come of Ages (golygydd, IWA, 2005)
  • Birth of Welsh Democracy (golygydd, IWA, 2003)
  • Building a Civic Culture: Institutional Change, Policy Development and Political Dynamics in the National Assembly for Wales (co-golygydd, 2002, IWA)
  • The National Assembly Agenda (golygydd, IWA, 1998)
  • Welsh Europeans (Seren, 1995)
  • The Reality of Dyslexia (Cassell, 1993)
  • The Democratic Challenge (Gomer, 1992)
  • The Divided Kingdom (Constable, 1988)
  • The National Question Again - Welsh Political Identity in the 1980s (golygydd, Gomer, 1985)
  • Work in the Future (Thorsons, 1986)
  • Police Conspiracy (Y Lolfa, 1984)
  • Alternatives (Thorsons, 1983)
  • Creative Conflict: The Politics of Welsh Devolution (Routledge, 1978)
  • The Centralist Enemy (Christopher Davies, 1974)

Dolenni allanol[golygu]