Awstiniaid
Oddi ar Wicipedia
Urddau mynachaidd yn perthyn i'r Eglwys Gatholig yw'r Awstiniaid. Daw'r enw o Sant Awstin o Hippo (bu farw 430).
Ar hyn o bryd mae pum prif gangen:
- Urdd Sant Awstin; urdd o frodyr dan y Prior Cyffredinol
- Lleianod Awstinaidd; lleianod yn dilyn bywyd caeedig
- urddau Awstinaidd eraill heb fod dan y Prior Cyffredinol, er enghraifft yr Wrswliniaid
- cynulleidfaoedd crefyddol o fywyd apostolaidd (dynion a merched)
- urddau a chymdeithasau lleyg a sefydlwyd dan enw Sant Awstin
[golygu] Tai Awstinaidd yng Nghymru
Sefydlwyd nifer o dai o Ganoniaid Rheolaidd yn dilyn y rheol Awstinaidd yng Nghymru. Roedd y rhain yn cynnwys Priordy Penmon, Priordy Caerfyrddin a Priordy Llanddewi Nant Hodni. Bu amryw ohonynt yn hen glasau Celtaidd cyn dod yn briordai; er enghraifft yng Ngwynedd daeth amryw o'r hen glasau yn briordai y Canoniaid Awstinaidd Rheolaidd dan nawdd Llywelyn Fawr yn nechrau'r 13eg ganrif.

