Llandeilo Bertholau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Teilo, Llandeilo Bertholau.

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw Llandeilo Bertholau (Seisnigiad: Llantilio Pertholey). Saif i'r gogledd o'r Fenni, heb fod ymhell o'r briffordd A465. Heblaw Llandeilo Bertholau ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Llanddewi Ysgyryd. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,965.

Mae'r gymuned yn cynnwys bryn Ysgyryd Fawr, sy'n cyrraedd uchder o 486 medr. Mae Eglwys Sant Mihangel, lle'r arferai Catholigion addoli yn ddirgel yn y 17eg ganrif, yn awr yn adfail, tra mae Eglwys Sant Teilo yn dyddio o'r 13eg ganrif. Ymhlith adeiladau nodedig y gymuned, mae Maindiff Court, lle cadwyd Rudolf Hess yn garcharor am gyfnod.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandeilo Bertholau (pob oed) (3,906)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandeilo Bertholau) (382)
  
10.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandeilo Bertholau) (2948)
  
75.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llandeilo Bertholau) (678)
  
40.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013