Tryleg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tryleg
Sir Fynwy
CymruFynwy.png
Smotyn Coch.gif

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw Tryleg. Defnyddir y ffurfiau Trelech, Trellech, Trelyg a Trelleck ar y pentref yn ogystal. Mae yno safle archaeolegol arwyddocaol.

Tryleg

Ceir meini hirion yn y fynwent a elwir yn "Feini Harold", ac mae olion castell o'r cyfnod Normanaidd i'w gweld yno. Ystyrir Ffynnon y Santes Ann yn ffynnon gysegredig, ac mae traddodiad o adael darnau o frethyn o'i chwmpas.

Sefydlwyd Tryleg gan deulu de Clare, ac roedd yn dref bwysig yn y Canol Oesoedd. Yn dilyn lladd Gilbert de Clare ym Mrwydr Bannockburn ym 1314, ac effeithiau'r Pla Du, collodd ei phwysigrwydd. Fe'i llosgwyd i'r llawr gan Owain Glyndŵr

Ganwyd Bertrand Russell yma ym 1872.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tryleg (pob oed) (2,759)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tryleg) (261)
  
9.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tryleg) (1059)
  
38.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tryleg) (312)
  
29.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013