Llan-gwm

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am bentrefi sydd ag enw tebyg, gweler Llangwm.
Eglwys Sant Sierôm, Llan-gwm

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw Llan-gwm, weithiau Llangwm (SO4200). Saif i'r dwyrain o dref Brynbuga. Heblaw Llan-gwm ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanfihangel Torymynydd a Llan-soe. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 400. Ar un cyfnod ceid Llangwm Uchaf a Llan-gwm Isaf (Gwarthacwm bellach).

Mae'r gymuned yn cynnwys bryngaer fwyaf Sir Fynwy, y Gaer Fawr. Cysegrir eglwys Llan-gwm i Sant Sierôm, ac mae'n cynnwys croglen nodedig o tua 1500. Ganed Walter Cradock, un o arweinwyr mwyaf blaenllaw y Piwritaniaid cynnar, yn Llan-gwm.


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato