Llanfihangel Troddi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°47′21″N 2°44′11″W / 51.78905°N 2.73646°W / 51.78905; -2.73646

Llanfihangel Troddi
Llanfihangel Troddi is located in Sir Fynwy
Llanfihangel Troddi

Llanfihangel Troddi Sir Fynwy
Cyfeirnod grid yr AO SO493103
Sir Sir Fynwy
Sir seremonïol Gwent
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost TREFYNWY
Rhanbarth cod post NP25
Cod deialu 01600
Yr Heddlu Gwent
Tân De Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Mynwy
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Fynwy

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Fynwy yw Llanfihangel Troddi (Saesneg: Mitchel Troy); (SO4910). Saif ger afon Troddi, dair milltir i'r de-orllewin o Drefynwy, heb fod ymhell o'r briffordd A40.

Yr olygfa i'r gogledd-orllewin,
tuag at "Troy House" a thu hwnt.

Daw'r enw o Afon Troddi, sy'n llifo trwy'r pentref; yn 1148 yr enw oedd 'Troi', talfyriad o 'Troddi'[1]. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Mihangel; mae'n dyddio o'r 13eg ganrif, 1208 yn ôl arysgrif ynddi. Roedd Adda o Frynbuga yn rheithor o 1382 hyd 1385. Ceir heneb yn dyddio'n ôl i sefydlu'r eglwys yma, sef Croes Llanfihangel Troddi.

Mae Troy House, tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, yn dyddio o tua 1680, ar safle adeilad cynharach.

Mae'r gymuned a'r plwyf yn cynnwys pentref Cwmcarfan.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel Troddi (pob oed) (1,253)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel Troddi) (108)
  
8.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel Troddi) (624)
  
49.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanfihangel Troddi) (143)
  
28.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 'Dictionary of Placenames' gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013