Llandegfedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yn Sir Fynwy yw Llandegfedd (Seisnigiad: Llandegveth). Fe'i lleolir yng ngorllewin y sir ger y ffin sirol rhwng Sir Fynwy a bwrdeistref sirol Torfaen, tua 6 milltir i'r gogledd o ddinas Casnewydd. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Llangybi Fawr.[1]

Enwir Cronfa Llandegfedd, a leolir tua 3 milltir i'r gogledd, ar ôl y pentref. Mae'n llyn 434 acer sy'n boblogaidd gan bysgotwyr ac fel canolfan hamdden dŵr.

Cyfeiriadau[golygu]


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato