Llanoronwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Llanoronwy.

Pentref a phlwyf yn Sir Fynwy yw Llanoronwy (Saesneg: Rockfield). Fe'i lleolir 2 filltir i'r gogledd-orllewin o Drefynwy ar y ffordd B4233, yng ngogledd-ddwyrain y sir.

Llifa Afon Mynwy heibio i'r pentref. Cysegrir eglwys Llanoronwy i'r Santes Cenedlon. Ceir ffynnon sanctaidd ger yr eglwys. Cofnododd Edward Lhuyd fod sant wedi cael ei ferthyru yno trwy dorri ei ben a bod smotiau coch ei "waed" ar gerrig y ffynnon.[1]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000). d.g. Cenedlon.

Dolenni allanol [golygu]


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato