Betws Newydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Sant Aeddan, Betws Newydd.

Pentref bychan yn Sir Fynwy yw Betws Newydd (Seisnigiad: Bettws Newydd). Fe'i lleolir yng ngogledd y sir, tua 3½ milltir (5.6 km) i'r gogledd o Frynbuga, fymryn i'r de o Gleidda, ger Rhaglan.

Mae'n un o sawl pentref yng Nghymru sy'n cynnwys y gair betws yn ei enw. Yn achos Betws Newydd, mae'r gair yn cyfeirio at gapel bychan ar gyfer gweddîo (betws) a sefydlwyd yno yn yr Oesoedd Canol. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 15fed ganrif yn bennaf ac yn adeilad cofrestredig Graddfa I.

Mae'r Betws yn rhan o blwyf eglwysig Llan-arth Fawr.

CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato