Trefynwy
Cyfesurynnau: 51°48′32″N 2°43′10″W / 51.80893°N 2.71938°W
| Trefynwy | |
Pont Mynwy |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 8,547 |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SO505125 |
| Prif ardal | Sir Fynwy |
| Sir seremonïol | Gwent |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | MYNWY |
| Rhanbarth cod post | NP25 |
| Cod deialu | 01600 |
| Yr Heddlu | Gwent |
| Tân | De Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Mynwy |
| Cynulliad Cymru | Mynwy |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Fynwy | |
Trefynwy yw prif dref Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'n dref hanesyddol ar lannau Afon Mynwy, tua 2 filltir (3.2 km) o'r ffin â Lloegr. Saif y dref 36 milltir (58 km) i'r gogledd-ddwyrain o Gaerdydd a 127 m (204 km) i'r gorllewin o Lundain. Mae'n fwy na thebyg mai "Aber Mynwy" oedd yr enw gwreiddiol a cheir cofnod ohonno'n dyddio nôl i 1136 (Aper Myngui ac Aper Mynuy). Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 8,547. Ymroella Llwybr Treftadaeth Trefynwy drwy'r dref. Enw'r papur bro lleol ydy Newyddion Mynwy.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Erging [golygu]
Gorweddai Teyrnas Erging, yn bennaf, yn yr hyn sydd erbyn heddiw yn orllewin Swydd Henffordd yn Lloegr. Canol y deyrnas oedd yr ardal rhwng afonydd Mynwy a Gwy (Swydd Henffordd), ond ymestynnai hefyd i'r Sir Fynwy fodern ac i'r dwyrain o afon Gwy lle ceir safle tref Rufeinig Ariconium (yn Weston under Penyard heddiw); credir fod yr enw 'Erging' yn deillio o enw'r dref honno a oedd, mae'n bosibl, yn brifddinas y deyrnas fechan.
Y cyfnod Rhufeinig [golygu]
Roedd gan y Rhufeiniaid gaer yma, a alwyd yn Blestium. Cysylltwyd y dref gyda plethwaith o ffyrdd i drefi cyfagos: Glefiwm (Caerloyw) ac Isca Augusta (Caer Rufeinig Caerllion). Credir fod mwyngloddio haearn gerllaw yn Gobaniwm (y Fenni) ac Ariconiwm (Rhosan ar Wy).
Yr Oesoedd Canol [golygu]
Yn 1067 codwyd castell Normanaidd. Yn y Canol Oesoedd, ffurfiai'r afon un o ffiniau Rhwng Gwy a Hafren. Yn y cyfnod yma gallai llongau gyrraedd cyn belled a Threfynwy. Mae Pont Mynwy yn bont sydd wedi'i chryfhau'n filwrol yn unigryw yng ngwledydd Prydain. Yn ddiweddarach daeth y dref o fewn goruchwyliaeth y Lancastriaid a hi ydy tref genedigol Harri V, brenin Lloegr (20 Mawrth 1413).
Wedi'r Oesoedd Canol [golygu]
Yn 1536 fe'i gwnaed yn dref weinyddol Sir Fynwy.
Twristiaeth [golygu]
Mae Trefynwy'n ganolfan dwristaidd eitha poblogaidd gan ei bod wed'i lleoli yn Nyffryn Afon Gwy a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd yn ardal Gadwraeth Arbennig, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth eithriadol o blanhigion dŵr a geir yn ei dalgylch.[1] Ceir hefyd amrywiaeth o bysgod, sy'n cynnwys poblogaeth sylweddol o eogiaid, ac ymhlith y rhywogaethau llai cyffredin, poblogaeth o'r Gwangen (Alosa fallax). Yn nhalgylch afon Gwy y ceir y boblogaeth fwyaf o'r Dyfrgi yng Nghymru. Nid oes llawer o broblemau llygredd ar hyd yr afon.
Preswylwyr enwog [golygu]
Gweler hefyd [golygu]
- Tarddiad yr enw Mynwy
- MonmouthpediA Cymraeg
- Afon Troddi
- Llwybr Clawdd Offa
- Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog
- Rheilffordd Mynwy
- Castell Mynwy
- Esgob Mynwy
- Terfysg Casnewydd
- copaon Sir Fynwy
Cyfeiriadau [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan lleol
Aberffrwd · Abergwenffrwd · Betws Newydd · Brynbuga · Bryngwyn · Caerwent · Cas-gwent · Castell-meirch · Cemais Comawndwr · Cilgwrrwg · Cil-y-Coed · Clydach · Coed Morgan · Coed-y-mynach · Cwmcarfan · Cwm-iou · Drenewydd Gelli-farch · Y Dyfawden · Yr Eglwys Newydd ar y Cefn · Y Fenni · Gaer-lwyd · Gilwern · Glasgoed · Goetre · Gofilon · Y Grysmwnt · Gwehelog · Gwernesni · Gwndy · Yr Hencastell · Little Mill · Llanarth · Llanbadog · Llandegfedd · Llandeilo Bertholau · Llandeilo Gresynni · Llandenni · Llandidiwg · Llanddewi Nant Hodni · Llanddewi Rhydderch · Llanddewi Ysgyryd · Llanddingad · Llanddinol · Llanelen · Llanelli · Llaneuddogwy · Llanfable · Llanfaenor · Llanfair Cilgedin · Llanfair Is Coed · Llanfihangel Crucornau · Llanfihangel Tor-y-mynydd · Llanfihangel Troddi · Llanfihangel-y-gofion · Llanfihangel Ystum Llywern · Llanfocha · Llanffwyst · Llangaeo · Llangatwg Feibion Afel · Llangatwg Lingoed · Llangiwa · Llangofen · Llan-gwm · Llangybi · Llanhenwg · Llanisien · Llanllywel · Llanofer · Llanoronwy · Llan-soe · Llantrisant · Llanwarw · Llanwenarth · Llanwynell · Llanwytherin · Y Maerdy · Magwyr · Mamheilad · Matharn · Mounton · Nant-y-deri · Newbridge-on-Usk · Y Pandy · Pen-allt · Penrhos · Pen-y-clawdd · Porth Sgiwed · Pwllmeurig · Rogiet · Rhaglan · St. Arvans · Sudbrook · Trefynwy · Tre'r-gaer · Tryleg · Tyndyrn · Ynysgynwraidd