Charles Stewart Rolls
Oddi ar Wicipedia
Gwneuthurwr ceir ac awyrennwr oedd Charles Stewart Rolls (27 Awst 1877 – 12 Gorffennaf 1910), mab yr Arglwydd Llangattock.
Gyda'i gyfaill Frederick Henry Royce sefydlodd gwmni ceir Rolls-Royce yn 1904. Ef oedd y gŵr cyntaf yng ngwledydd Prydain i farw mewn damwain awyrennau pan dorrodd cynffon ei 'Wright Flyer' pan oedd yn 32 blwydd oed.
Er mai yn Llundain y cafodd ei eni, glynodd yn glos at gartref ei deulu yn Yr Hendre, Sir Fynwy.[1]