Terfysg Casnewydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr ymosodiad ar y Siartwyr ger Gwesty Westgate.

Terfysg Casnewydd, weithiau Gwrthryfel Casnewydd, yw'r term a ddefnyddir am y digwyddiadau yn ninas Casnewydd yn ne-ddwyrain Cymru ar 4 Tachwedd 1839.

Cysylltid y digwyddiad a mudiad Siartiaeth. Roedd y Siartwyr yn brwydro am hawliau sylfaenol megis yr hawl i bob dyn dros 21 oed gael bwrw ei bleidlais, yr hawl i bleidlais gudd ac am gyflog i aelodau seneddol.

Ar 4 Tachwedd 1839, arweiniodd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones orymdaith o tua 3,000 o Siartwyr i Gasnewydd, gan geisio rhyddhau Siartwyr oedd wedi eu carcharu yn y Westgate Hotel. Daeth dilynwyr Frost o'r Coed Duon, dilynwyr Williams o Lynebwy a chriw Jones o Bont-y-Pŵl. Roedd llawer o golofnau'r sefydliad yn y gwesty ynghyd â 60 o filwyr arfog. Taniwyd at y 'mob' gan filwyr Lloegr y tu allan i westy'r Westgate am tua 25 munud o gythrwfwl, a bu farw 22 o bobl ac anafwyd dros hanner cant.

Rhoddwyd John Frost, William Jones a Zephaniah Williams ar eu prawf, eu cael yn euog a'u dedfrydu i gael eu crogi a'u chwarteru.[1] Wedi protest gyhoeddus, newidiwyd y ddedfryd i alltudiaeth, ac aed â hwy i Van Diemen's Land (Tasmania heddiw).

Yn ôl rhai haneswyr, dyma wrthryfel mwyaf a chryfaf gwledydd Prydain yn ystod y 19eg ganrif.[2].

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gweler dogfennau o'r cyfnod ar wefan Saesneg 'newportpast.com
  2. Edward Royal, Chartism, Longman, London: 1996