Siartiaeth

Oddi ar Wicipedia
Siartiaeth
Murlun o Chwyldro Casnewydd (1839)
Enghraifft o'r canlynolmudiad gwleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegradicaliaeth gwleidyddol Edit this on Wikidata
SylfaenyddWilliam Lovett Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Radicaliaeth a Phrotest
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg
Cyfarfod o'r Siartwyr yn Kennington Common, Llundain yn 1848

Mudiad a fynnai weld gwellianau mewn amodau byw a hawliau dinesig gweithwyr cyffredin rhwng 1838 a 1858 oedd Siartiaeth neu Fudiad y Siartwyr. Roedd y mudiad yn weithgar yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei sefydlu drwy 'Siarter y Bobl' a gyhoeddwyd ym Mai 1838.

Roedd yn ei anterth yn 1839, 1842, a 1848, a chyflwynwyd deiseb i Dŷ'r Cyffredin yn hawlio newid. Ar y cyfan, defnyddiwyd dulliau cwbl ddi-drais fel cyfarfodydd a deisebau. Yr ardaloedd mwyaf gweithgar oedd ardaloedd glo De Cymru, Gogledd Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Ardal y Crochendai yn Swydd Stafford a'r Black Country, sef bwrdeistrefi Dudley, Sandwell a Walsall.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd Siartaeth yn un o’r mudiadau dosbarth gweithiol torfol cyntaf mewn hanes. Y prif reswm dros ffurfio mudiad y Siartwyr oedd siom a dicter rhai o’r dosbarth canol gyda Deddf Diwygio 1832 ac anhapusrwydd y dosbarth gweithiol nad oedden nhw wedi cael y bleidlais o gwbl. Roedd y diffyg grym gwleidyddol i ddosbarth gweithiol Cymru wedi cynyddu poblogrwydd Siartaeth yng Nghymru, yn enwedig yn ardaloedd diwydiannol newydd y wlad. Cynyddodd hyn y galwad am newidiadau i’r system wleidyddol yng Nghymru. Roedd problemau eraill yn poeni’r dosbarth gweithiol hefyd, fel amodau byw a gwaith gwael, system atgas y tlotai a basiwyd gan Ddeddf Newydd y Tlodion yn 1834, agwedd y Llywodraeth tuag at y dosbarth gweithiol a’r undebau. Roedd y cosbau llym a roddwyd gan y Llywodraeth i Ferthyron Tolpuddle yn dangos eu gwrthwynebiad i’r syniad o weithwyr yn ymuno ag undebau. Roedd annhegwch mawr yn dal i fodoli yn y system bleidleisio, gan fod diffyg pleidlais i’r dosbarth gweithiol yn golygu na allent wella eu hamgylchiadau byw a gwaith. Os nad oeddent yn medru lleisio eu barn wleidyddol drwy gael y bleidlais byddent yn methu dod o hyd i ateb i’r problemau cymdeithasol eraill oedd yn eu hwynebu yn eu bywyd bob dydd.

Lluniodd cefnogwyr Siartiaeth ddogfen o’r enw Siarter y Bobl a gyhoeddwyd yn 1838. Roedd y chwe phwynt yn dangos dylanwad clir y Radicaliaid:

1.     Pleidlais i bob dyn yn 21 oed.

2.     Pleidlais gudd er mwyn diogelu’r etholwr.

3.     Dim cymwysterau eiddo i Aelodau Seneddol fel y gallai etholwyr ethol dyn o'u dewis, boed hwnnw'n ddyn cyfoethog neu’n ddyn tlawd.

4.     Talu Aelodau Seneddol fel y gallai gweithwyr cyffredin fforddio cynrychioli eu hetholaeth.

5.     Etholaethau cyfartal er mwyn sicrhau’r un gynrychiolaeth i'r un nifer o etholwyr.

6.     Etholiadau blynyddol.  Credai’r Siartwyr y byddai hyn yn atal llwgrwobrwyo a llygredd yn ystod y broses etholiadol yn ogystal â gwneud Aelodau Seneddol yn fwy atebol i’r bobl.

Roedd agwedd y Llywodraeth tuag at gwynion y dosbarth gweithiol wedi dod i'r amlwg yn y ffordd roedd Merthyron Tolpuddle wedi cael eu trin. Roedd y protestwyr hynny eisiau cryfhau awdurdod yr undebau llafur ond cosbwyd hwy yn llym gan y Llywodraeth. [1]

Cymru[golygu | golygu cod]

Yn ardaloedd diwydiannol Cymru achosodd y Chwyldro Diwydiannol amrywiaeth o broblemau ym mywyd bob dydd ac ym mywyd gwaith pobl. Cododd gweithwyr haearn Merthyr mewn terfysg ym Mehefin 1831 oherwydd yr amodau byw afiach, gor-boblogi a’r epidemigau o Golera oedd yn dod yn sgil hynny oherwydd diffyg cyflenwadau dŵr glân. Roedd yr amodau gwaith yn y gweithfeydd yn beryglus, a thrwy’r System Dryc roedd gafael haearnaidd y meistri haearn ar y gweithwyr yn cryfhau. Yn ychwanegol at hynny nid oedd gan y gweithwyr bleidlais i fynegi eu cwynion am eu hamgylchiadau.

Yn 1839 roedd yn rhaid pleidleisio'n agored, naill ai drwy godi llaw mewn torf neu drwy weiddi enw’r dyn roeddech chi eisiau pleidleisio drosto. Roedd hyn yn creu problem. Gallai pobl gael eu bygwth a'u llwgrwobrwyo i bleidleisio dros rai ymgeiswyr. Cafwyd achosion lle collodd rhai eu cartrefi oherwydd eu bod wedi pleidleisio yn erbyn eu landlord. Credai’r Siartwyr y dylai pob dyn dros 21 gael yr hawl i bleidleisio'n gudd, ac y dylai aelodau seneddol gael tâl.             

Maes glo'r de oedd cadarnle'r Siartwyr. Yng Nghaerfyrddin, y Siartydd mwyaf amlwg oedd Hugh Williams, a oedd yn frawd yng nghyfraith i Richard Cobden, y gwleidydd radicalaidd. Yn Llanelli roedd David Rees, golygydd Y Diwygiwr, yn ffigwr amlwg. Ym Merthyr Tudful roedd Morgan Williams yn flaenllaw; yr enwog Dr Willliam Price o Lantrisant; a John Frost yn Sir Fynwy. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn Neuadd y Sir, Trefynwy i'w crogi a'u chwarteru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Radicaliaeth a Phrotest" (PDF). CBAC.