Llanelli

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°41′02″N 4°09′47″W / 51.684°N 4.163°W / 51.684; -4.163

Llanelli
Llanelli parish church - geograph.org.uk - 1276654.jpg
Llanelli is located in Sir Gaerfyrddin
Llanelli

Llanelli Y Deyrnas Unedig
Poblogaeth 46,358 [1]
Cyfeirnod grid yr AO SN505005
Sir Sir Gaerfyrddin
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Wales
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost LLANELLI
Rhanbarth cod post SA14, SA15
Cod deialu 01554, 01267[2]
Yr Heddlu  
Tân  
Ambiwlans  
Senedd yr Undeb Ewropeaidd
Senedd y DU Llanelli
Cynulliad Cymru Llanelli
Gwefan [1]
Rhestr llefydd: Y Deyrnas Unedig
Pwnc yr erthygl hon yw tref Llanelli. Am ddefnydd arall o'r enw Llanelli gweler y dudalen gwahaniaethu ar Lanelli.

Llanelli yw tref fwyaf Sir Gaerfyrddin a de orllewin Cymru, wedi'i lleoli ar aber Afon Lliedi rhyw ddeuddeng milltir i'r gorllewin o Abertawe ac rhyw ugain milltir i'r de o Gaerfyrddin. Mae Caerdydd 72.1 km i ffwrdd o Llanelli ac mae Llundain yn 281.6 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 15.2 km i ffwrdd. Mae Llanelli hefyd yn gymuned.

Tyfodd y dref yn y 19eg ganrif o amgylch y pyllau glo a'r gweithfeydd tun. Mae’r dref yn enwog am ei thraddodiad rygbi balch.

Mae Llanelli hefyd wedi’i hamgylchynu gan nifer o drefi a phentrefi bach a adweinir fel Llanelli Rural. Mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o dref Llanelli.

Hanes[golygu]

Diwydiant[golygu]

Tyfodd Llanelli yn gyflym yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif gyda’r diwydiant glo, ac ar ôl hynny fel man cynhyrchu tunplat. Roedd y dref yn lle cynhyrchu tun arwyddocaol ar lefel rhanbarthol a chafodd ei henwi'n "Tinopolis." Er i’r diwydiannau ddechrau cau yn yr 1970au, fe ddioddefodd y dref ddirywiad economaidd parhaus. Er hynny, gwelir buddsoddiad mawr ym meysydd adloniant a thwristiaeth.

[3]

  • Marshfield
  • Batchelor Robinsons
  • Moowoods
  • Thomas & Clement
  • Gwaith y Burry
  • Yr Old Lodge
  • Fowndri Waddle
  • Yr Hen Gastell
  • Stamping (a oedd yn cynhyrchu sosbenni)

Yr Iaith Gymraeg[golygu]

Sefydlwyd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf gan awdurdod lleol yn Llanelli yn 1947, sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli.

Yn y 1950au bu Trefor ac Eileen Beasley yn ceisio cael papur treth Cymraeg gan Gyngor Gwledig Llanelli drwy wrthod talu'r dreth hyd y caent un. Ymateb y cyngor oedd eu herlyn gan anfon y bwmbeili i mewn a gwerthu eu celfi er mwyn cael arian y dreth. Prynnodd gyfeillion gelfi iddynt. Bu rhaid aros tan ganol y 1960au cyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg pan dderbyniodd y cynghorau fod yn rhaid iddynt ddarparu rhai dogfennau yn Gymraeg.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ym 1895, 1903, 1930, 1962 a 2000.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanelli (pob oed) (25,168)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanelli) (5,732)
  
23.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanelli) (20423)
  
81.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanelli) (4,833)
  
43.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Chwaraeon[golygu]

Rygbi[golygu]

Ffurfiwyd Clwb Rygbi Llanelli yn gynnar yn yr 1870au ac mae i'r clwb hanes anrhydeddus.

Pêl-droed[golygu]

Mae gan Llanelli dîm pêl-droed o’r enw C.P.D. Llanelli sy’n chwarae yng Nghynghrair Cymru. Mae nhw’n chwarae ar barc Stebonheath, o dan reolaeth Peter Nicholas.

Golff[golygu]

Mae gan ardal Llanelli dri chwrs golff, yn cynnwys Clwb Golff a Gwledig Machynys sydd yn gartref i Gampwriaeth Merched Ewrop Cymru.

Chwaraeon modur[golygu]

Gelwir Cylchdaith Penbre (Pembrey Circuit) yn gartref i chwaraeon modur yng Nghymru.

Diwylliant[golygu]

Mae hanes crefydd a'r capeli yn ganolog i hanes diwylliannol Llanelli. Roedd David Rees y Cynhyrfwr yn weinidog yng Nghapel Als, Jubilee Young yn Seion Llanelli a Gwyndaf yn Tabernacl Llanelli.

Y Cyfryngau[golygu]

Mae gan y dref orsaf radio o’r enw Scarlet FM.

Y Llanelli Star yw'r unig bapur wythnosol yn y dref sydd wedi goroesi. Roedd tri yn cael eu cyhoeddi yn y dref ar un adeg gan gynnwys Llanelli Mercury. Yng nghanol y 1970au dechreuwyd cyhoeddi Llanelli News ond ni pharhaodd mwy nag ychydig flynyddoedd.

Mae Llanelli'n gartref i Gwmni Teledu Tinopolis sydd yn un o’r cynhyrchwyr annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r cwmni sy'n cynhyrchu'r rhaglen deledu ‘Wedi 7’ a ddarlledir ar yn fyw yn ddyddiol ar S4C.

Theatr a sinema[golygu]

Theatr Elli yw’r unig theatr yn y dref, sy’n rhan o ganolfan adloniant Llanelli. Cynhelir nifer o sioeau yn y theatr yn cynnwys nifer o gynyrchiadau cerddorol a dramâu gan grwpiau lleol.

Trafnidiaeth[golygu]

Cysylltir y dref â thraffordd yr M4 gan yr A4138. I gyrraedd y dref oddi ar yr M4 deler oddi arni ar gyffordd 48.

Bws – Mae Llanelli yn cael ei gwasanaethu yn gyson gan wasanaethau bws lleol rhwng Abertawe a Chaerfyrddin.

Lleolir yr orsaf drenau rhyw filltir i’r de o ganol y dref. Mae trenau Llundain i Abergwaun yn mynd drwy'r orsaf hon a hefyd llinell drenau Calon Cymru o Abertawe i Amwythig.

Gwleidyddiaeth[golygu]

Arfbais Cyngor Trefol Llanelli
Neuadd Tref Llanelli

Mae tref Llanelli o fewn etholaeth seneddol Llanelli ac etholaeth Cynulliad Llanelli Cynrychiolydd San Steffan yw Nia Griffith ac un y Cynulliad yw Helen Mary Jones.

Caiff rhan o'r dref ei llywodraethu ar lefel leol gan Gyngor Tref Llanelli a rhan gan Gyngor Gwledig Llanelli, a'r cwbl gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar lefel sirol.

Daeth Cyngor Tref Llanelli i rym ar 1af Ebrill, 1974. Rhennir ei hardal weinyddiaeth i 5 ward: Bigyn, Elli, Glanymor, Lliedi a Tyisha, sy'n cael eu cynrychioli gan 20 cynghorydd.

Gefeilldref Llanelli yw Agen yn Ffrainc.

Enwogion[golygu]

Atyniadau lleol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cyfrifiad 2001
  2. Mae gan rai o ardaloedd gwledig SA14, megis Cross Hands, gôd deialu 01267
  3. Rhai o weithfeydd tun a dur tref Llanelli hanner cyntaf yr 20G; Wyn a'i Fyd; 2009
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Ffynonellau[golygu]

Cysylltiadau allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: