David Rees

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am y mathemategydd, gweler David Rees (mathemategydd).

Roedd y Parchedig David Rees (14 Tachwedd, 1801- 31 Mawrth, 1869) yn Weinidog gyda’r Annibynwyr ar Gapel Als, Llanelli ac yn olygydd y cylchgrawn Anghydffurfiol Y Diwygiwr. Fe’i adnabyddir orau fel ‘Y Cynhyrfwr’, ei safbwyntiau gwleidyddol radical a’i wrthwynebiad i berthynas Yr Eglwys Sefydledig â’r wladwriaeth.

Magwraeth[golygu]

Ganwyd Rees ar ffermdy Gelli Lwyd ym mhlwyf Tre-lech yn Sir Gaerfyrddin. Yn ystod ei blentyndod bu’n gweithio ar y fferm yn ogystal â threulio peth amser gyda’r gof lleol.

Ni chafodd unrhyw addysg ffurfiol tra’n blentyn heblaw am yr Ysgol Sul a’r addoliad teuluol a gynhaliwyd ar ei aelwyd.

Ym 1818 fe’i derbyniwyd yn aelod yng Nghapel Annibynnol Tre-lech gan y gweinidog Calfinaidd Morgan Jones ac ym 1822, a’i fryd ar fynd i’r weinidogaeth, aeth i ysgol yn Hwlffordd ac yna’n ddiweddarach ymlaen i ysgol arall yng Nghaerfyrddin.

Dechreuodd bregethu ym 1823 a bu iddo fynychu ysgol baratoi yn y Drenewydd, Powys cyn iddo gael ei dderbyn yn swyddogol i athrofa’r Annibynwyr yno ym 1825. Bu yn yr athrofa yn yr un cyfnod ac Annibynwyr nodedig eraill, yn eu plith Samuel Roberts, Llanbrynmair (S.R.), un a ddaeth yn ddiweddarach i olygu’r cylchgrawn radical Cronicl y cymdeithasau crefyddol.

Bywyd Personol[golygu]

Bu iddo briodi Sarah Roberts, merch i siopwr llwyddiannus a oedd yn ddiacon gyda’r Bedyddwyr ym 1832 a ganed iddynt bump o blant Bernard, Elizabeth, John Calfin, Luther a Frederic (boddodd y ddau olaf mewn damwain drychinebus pan oeddynt yn eu harddegau cynnar). Bu farw Sarah, ei wraig, hithau yn 1857 ac ail briododd Rees â Mrs. Margaret Phillips, gweddw o Gaerfyrddin, yn 1858.

Gweinidog[golygu]

Wedi iddo dreulio pedair blynedd yn Nhrenewydd derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar Gapel Als, Llanelli yn 1829 ac fe barhaodd yn weinidog ar yr eglwys honno hyd at ei farwolaeth ym 1869.

Yn ogystal ag arwain nifer o ymgyrchoedd i adnewyddu ac ehangu Capel Als, bu Rees hefyd yn flaenllaw wrth sefydlu nifer o gapeli Annibynnol eraill yn ardal Llanelli, sef Siloa, Capel Saesneg Y Parc, Capel y Bryn a’r Doc.

Ar ddechrau gweinidogaeth Rees dywedir fod oddeutu 250 o aelodau gan yr eglwys a fod hyn wedi cynyddu i 589 erbyn 1850 er gwaethaf rhannu’r gynulleidfa i ffurfio eglwysi eraill.

Yn ôl tystiolaeth David Rees ei hun ar gyfer Cyfrifiad Crefyddol 1851, roedd y capel wastad yn llawn i’r oedfaon hwyrol ac amcangyfrifodd mai 850 a fyddai’n bresennol yn y capel ar y Sul gan amlaf.

Y Diwygiwr[golygu]

Sefydlwyd y Diwygiwr gan David Rees ar gais Annibynwyr de orllewin Cymru ym 1835 fel ymateb i’r gogwydd cynyddol geidwadol y tueddai’r Efangylydd (a olygwyd gan Brutus, gwrthwynebydd pennaf Rees mewn blynyddoedd i ddod) tuag ato. Parhaodd i olygu'r cylchgrawn hyd at 1865.

Trwy’r Diwygiwr, cyflwynwyd egwyddorion gwleidyddol yr Anghydffurfwyr yn eglur ac yn angerddol, ac o’r cylchgrawn hwn y daeth y gri a gysylltir agosaf â Rees: ‘Cynhyrfer! Cynhyrfer! Cynhyrfer! yw ein cais atoch, gydwladwyr ... tra gallom ddal ysgrifell i ysgrifennu, eiliwn ein cais, Cynhyrfer! Cynhyrfer! Cynhyrfer!’. Addasiad o slogan adnabyddus yr ymgyrchydd gwleidyddol Gwyddelig Daniel O'Connell - "Agitate, Agitate, Agitate" ydoedd hon.

Daeth y Diwygiwr o dan Rees i fod yn offeryn grymus i godi llais yn erbyn yr anghyfiawnderau tybiedig a deimlai'r Anghydffurfwyr ac i geisio annog pobl i wrthsefyll grym anghyfiawn yr Eglwys Sefydledig a’r awdurdodau. Yn ogystal â mynegi syniadau Anghydffurfiol, rhoddodd Rees hefyd ei gefnogaeth i’r egwyddor y tu ôl i fudiadau megis Merched Beca, Y Siartwyr, Y Gymdeithas Ryddhau a’r Gynghrair yn Erbyn y Deddfau Ŷd (er nad yn cydsynio a’u ddulliau hwy oll o weithredu).

Daeth Rees hefyd i enwogrwydd oherwydd ei frwydr eiriol â Brutus (David Owen) a fu’n golygu'r cylchgrawn eglwysig Yr Haul. Yn y dadleuon hyn gwelir fedr a dawn ddeifiol Brutus i ymosod yn fachog, a gallu Rees i ymateb yn glir ac heb flewyn ar dafod i amddiffyn yr egwyddorion Cristnogol a gwleidyddol a oedd yn mynd law yn llaw ag Anghydffurfiaeth ac y credai ynddynt mor angerddol.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • R.T. Jenkins (Gol.), Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953)
  • Iorwerth Jones, David Rees Y Cynhyrfwr (Abertawe, 1971)
  • T. Davies, Bywyd ac Ysgrifeniadau y Diweddar Barch D. Rees, Llanelli (Llanelli, 1871)
  • Huw Edwards, "Capeli Llanelli" (Caerfyrddin, 2009)

Cysylltiadau Allanol[golygu]