Samuel Roberts

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gweinidog gyda'r Annibynwyr, diwygiwr radicalaidd ac awdur Cymreig oedd Samuel Roberts (S. R.) (6 Mawrth 18001885). Roedd yn frodor o blwyf Llanbrynmair, yn yr hen Sir Drefaldwyn (Powys).

Bywgraffiad[golygu]

Roedd ei dad, John Roberts, yn cadw ysgol yn Llanbrynmair, lle cafodd S. R. ei addysg gynnar cyn mynd i Ysgol Ramadeg Amwythig ac yna Academi George Lewis yn Llanfyllin.

Daeth yn ffigwr adnabyddus ledled Cymru, wrth yr enw "S. R." neu "Samuel Roberts, Llanbryn-mair", fel golygydd Y Cronicl, a sefydlwyd ganddo yn 1843. Roedd yn ddiflewyn ei dafod ei farn ar bynciau mawr y dydd. Gwrthwynebai adroddiad y Llyfrau Gleision, caethwasaeth, Rhyfel Crimea a phob agwedd ar imperialaeth Lloegr, boed hynny mewn perthynas â Chymru neu unrhyw wlad arall. Roedd o flaen ei amser hefyd yn ei gefnogaeth ddiysig i hawl pleidlais i bawb, yn cynnwys pleidlais i ferched.

Ond ennynodd ei farn annibynnol radicalaidd elynion iddo. Roedd yn ffermwr denant ar stad Wynnstay a bu rhaid iddo adael ei fferm yn 1857 ac ymfudo, fel sawl Cymro arall, i'r Unol Daleithiau i geisio ennill ei fywoliaeth a chael rhyddid barn. Ymgartrefodd yn nhalaith Tennessee. Pregethai'n gryf yn erbyn Rhyfel Cartref America yn enw egwyddorion heddychaeth, ond cafodd ei gamddeall a'i gondemnio o'r herwydd. Dychwelodd i Gymru, wedi ei siomi gan yr Amerig, yn 1867, ac aeth i ymgartrefu gyda'i frodyr yn nhref Conwy, gogledd Cymru. Bu farw yno yn 1885.

Gwaith llenyddol[golygu]

Roedd S. R. yn awdur toreithiog. Yn ogystal â llu o erthyglau yn Y Cronicl a chylchgronau Cymraeg eraill, cyhoeddodd dwy gyfrol o gerddi, pregethau, traethodau, hunangofiant, ac ysgrifau. Ei gyfrol enwocaf yw Cilhaul.

Llyfryddiaeth[golygu]

Gwaith S. R.[golygu]

  • Caniadau (1830)
  • Cofiant John Roberts (1837)
  • Diosg Farm (1854)
  • Gweithiau (1856)
  • Pregethau a Darlithiau (Utica, Efrog Newydd, 1865)
  • Detholion (1867)
  • Crynodeb o helyntion ei fywyd (1875)
  • Farmer Careful (1881)
  • Pleadings for Reform (1881)
  • Hunanamddiffyniad S. R. (1882)
  • Caniadau Byrion a Cilhaul (1906)
  • Heddwch a Rhyfel (d.d.).

Ceir detholiad o'i waith, yn cynnwys Cilhaul, yn y gyfrol Cilhaul ac ysgrifau eraill, golygwyd gan Iorwerth C. Peate (Caerdydd, 1951)

Llyfrau amdano[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]