John Thomas (ffotograffydd)

Oddi ar Wicipedia
John Thomas
Ganwyd14 Ebrill 1838 Edit this on Wikidata
Llanbedr Pont Steffan Edit this on Wikidata
Bu farw14 Hydref 1905 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffotograffydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFfotograffau gan John Thomas Edit this on Wikidata
PlantWilliam Thelwall Thomas Edit this on Wikidata
Enghraifft o waith John Thomas: portread o'i fam (yn eistedd), Shan y Lliwdy (chwith) a morwyn Bontfaen (1867). (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Ffotograffydd Cymreig oedd John Thomas (14 Ebrill 183814 Hydref 1905).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

William Thelwall Thomas (1865 - 1927), ail fab John Thomas.

Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghellan, Ceredigion, yn fab i labrwr. Yn 1853 symudodd y i Lerpwl, a bu'n gweithio mewn siop defnydd am ddeg mlynedd. Fe effeithiodd hyn ar ei iechyd, a gorfu iddo chwilio am waith allan yn yr awyr iach. Roedd ei ail fab, William Thellwall Thomas (1865 - 1927), yn llawfeddyg yn Lerpwl.[1]

Ffotograffiaeth[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd y 1860au cafodd waith gyda chwmni teithio yn sgwennu ac yn tynnu lluniau enwogion. Roedd y math yma o waith, ar y pryd, yn newydd iawn. Sylweddolodd mai cymharol brin oedd y ffotograffau o Gymry, felly dechreuodd arbenigo mewn tynnu a gwerthu lluniau o weinidogion. Erbyn 1867, roedd yn ddigon hyderus i ddechrau ar ei liwt ei hun, a gwnaeth hyn am gyfnod o dros 40 mlynedd dan yr enw: The Cambrian Gallery.

Pan ymddeolodd o'i waith, prynwyd dros 3,000 o'i luniau gan Syr O. M. Edwards er mwyn eu defnyddio yn ei gylchgronnau megis Cymru. Ceir dros 4,000 o'i ffotograffau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Casgliad John Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol[golygu | golygu cod]

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi rhoi copiau o'r delweddau sydd yng Nghasgliad John Thomas ar Gomin Wicimedia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-Lein; adalwyd 05 Rhagfyr 2013