Tre-lech, Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yn Sir Gaerfyrddin yw Tre-lech. Saif mewn ardal wledig iawn, tua hanner y ffordd rhwmng Caerfyrddin ac Aberteifi a heb fod ymhell o'r ffin a Sir Benfro. Yn ôl cyfrifiad 1991 roedd poblogaeth ardal Cyngor Cymuned Tre-lech a'r Betws yn 696, gyda 70% ohonynt yn siarad Cymraeg. Mae tafarn yno - ("Tafarn Beca"), ond does dim siop yn y pentref ar hyn o bryd.

Ganwyd y Parchedig David Rees ar ffermdy Gelli Lwyd ym mhlwyf Tre-lech ym 1801, a dyma fan geni'r awdur a'r newyddiadurwr Perceval Gibbon (1879–1926) hefyd.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tre-lech, Sir Gaerfyrddin (pob oed) (745)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tre-lech, Sir Gaerfyrddin) (440)
  
59.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tre-lech, Sir Gaerfyrddin) (461)
  
61.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Tre-lech, Sir Gaerfyrddin) (93)
  
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Cysylltiad allanol[golygu]