Eglwys Loegr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys gadeiriol Caergaint.

Yr eglwys wladol a sefydlodd Harri VIII yng Nghymru a Lloegr pan dorrodd y cysylltiad â'r Eglwys Gatholig er mwyn iddo allu cael ysgariad yw Eglwys Loegr. Archesgob Caergaint yw pennaeth Eglwys Loegr a'r Eglwys Anglicanaidd yn ogystal. Datgysylltwyd Yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr ym 1920.

Mae Eglwys Loegr yn cynnwys elfennau Protestannaidd amlwg yn ei chyfansoddiad, ond ar yr un pryd mae'n hawlio fod yn olynydd, fel eglwys sefydlog y wladwriaeth neu eglwys wladol, i'r drefn eglwysig yn Lloegr a sefydlwyd gan Sant Awstin, esgob cyntaf Caergaint, ddiwedd y 6ed ganrif. Roedd Cristnogaeth Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill yn annibynnol, a dim ond yn raddol, o gyfnod y Normaniaid ymlaen, y daeth y drefn eglwysig yng Nghymru dan awdurdod archesgobion Caergaint.

Sylfaen athrawiaeth Eglwys Loegr yw'r Llyfr Gweddi Gyffredin a 39 Erthygl y Ffydd.

Gweler hefyd[golygu]

Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.