Harri VIII, brenin Lloegr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Harri VIII o Loegr)
Neidio i: llywio, chwilio
Brenin Harri VIII, llun gan Hans Holbein yr Ieuaf

Brenin Lloegr o 22 Ebrill 1509 hyd ei farwolaeth oedd Harri VIII (28 Mehefin 149128 Ionawr 1547). Roedd hefyd yn Arglwydd Iwerddon (Brenin Iwerddon yn ddiweddarach) ac yn hawliwr ar deyrnas Ffrainc. Harri oedd yr ail deyrn yn Nhŷ'r Tuduriaid, gan olynu ei dad, Harri VII, brenin Lloegr.

Yn nheyrnasiad Harri VIII penderfynwyd 'uno' Cymru a Lloegr fel uned gyfreithiol (gweler Deddfau Uno 1536 a 1543).

Harri VIII a sefydlodd Eglwys Loegr. Ar ei orchymyn ef diddymwyd y mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr yn 1537.

Blynyddoedd cynnar: 1491–1509[golygu]

Ganwyd Harri VIII ym Mhalas Greenwich, ger Llundain, yn drydydd plentyn i Harri VII, brenin Lloegr ac Elisabeth o Efrog.[1] Dim ond tri o siblingiaid Harri a oroesodd plentyndod, sef Arthur, Tywysog Cymru; Marged; a Mari; y rhai a fu farw oedd Elisabeth Tudur, Edmwnd Tudur, Dug Somerset a Catherine Tudur. Ym 1493, ag yntau'n ddeuflwydd oed, apwyntwyd Harri yn Gwnstabl Castell Dover ac Arglwydd Warden y Cinque Ports. Ym 1494, crewyd yn Ddug Efrog. Apwyntwyd yn ddiweddarach yn Iarll Marsial Lloegr ac Arglwydd Raglaw Iwerddon. Derbyniodd Harri addysg o'r safon uchaf gan diwtoriaid blaengar, gan ddod yn rhugl mewn Lladin, Ffrangeg a Sbaeneg.[2] Gan y disgwylwyd i'w frawd hŷn, y Tywysog Arthur, etifeddu'r orsedd, paratowyd Harri ar gyfer gyrfa yn yr eglwys.[3]

Marwolaeth Arthur[golygu]

Catrin yn weddw ifanc gan Michael Sittow, tua 1502.

Ym 1502, bu farw Arthur yn 15 oed. Wedi ei farwolaeth, disgynodd ei ddyletswyddau i Harri, a ddaeth yn Dywysgo Cymru. Ail-gydiodd Harri VII yn ei ymdrechion i greu cynghrair rhwng Lloegr a Sbaen odan sêl priodas, gan gynnig Harri yn ŵr i gweddw Arthur, Catrin o Aragon, sef plentyn ifengaf a oroesodd i Ferdinand II, brenin Aragon a Isabella I, brenhines Castile.[4]

Fel arfer, er mwyn i'r tywysog newydd briodi gweddw ei frawd, buasai'n rhaid gwneud cais am ollyngiad gan y Pab er mwyn goruwchreoli y rhwystr o affinedd, fel y dywed yn llyfr Lefiticus "Os bydd brawd yn priodi gwraig ei frawd byddent yn aros yn ddi-blant". Mynodd Catrin nad oedd ei phriodas â'r tywysog Arthur wedi cael ei gyflawni. Ond, cytunodd Lloegr a Sbaen y buasai gollyngiad gan y Pab yn ddoeth er mwyn cael gwared ar unrhyw amheuaeth ynglyn â chyfreithlondeb y briodas.

Achosodd di-amyneddgaraeth mam Catrin, y Frenhines Isabella I, i'r Pab Julius II addef gollyngad ar ffurf Bwla Pabaidd. Felly, 14 mis wedi marwolaeth Arthur roedd Catrin a Harri am briodi, ond erbyn 1505, roedd Harri VII wedi colli diddordeb yn y gynghrair, a datganodd yr Harri ifengaf fod y briodas wedi cale ei drefnu heb ei gytundeb.

Parhaodd symudiadau diplomyddol ynglyn a tynged y briodas a gynnigwyd hyd marwolaeth Harri VII ym 1509. Priododd Harri â Catrin, ag yntau ond yn 17 oed, ar 11 Mehefin 1509, a coronwyd y ddau ar 24 Mehefin 1509, yn Abaty San Steffan.

Teyrnasiad cynnar: 1509–1525[golygu]

Ychydig ddyddiau wedi ei gorono, arestiodd dau o weinidogion mwyaf amhoblogaidd ei dad, Syr Richard Empson ac Edmund Dudley. Cawsont eu cyhuddo'n ddi-sail o uwchel frad a dieinyddwyd hwy ym 1510. Daeth hyn yn un o brif dactegau Harri er mwyn ymdrin â'r rhai a safai yn ei ffordd.[1]

Harri wedi ei goroni ym 1509.

Roedd Harri yn bolymath, ac roedd ei lys yn ganolfan ar gyfer datblygiadau newydd celfyddydol ac ysgoliaethol a gormodaeth cyfareddol, caiff hyn ei arddangos gan Faes y Defnydd Aur. Roedd yn gerddor, awdur a bardd galluog. "Pastime with Good Company" neu "The Kynges Ballade" yw ei gyfansoddiad cerddorol mwyaf adnabyddus. Roedd yn gamblwr a chwaraewr dis o fri, ac roedd yn rhagori mewn chwaraeon, yn enwedig ymwanu, hela, a tenis brenhinol. Roedd hefyd yn adnabyddus am ei gysegriad cryf i Gristnogaeth.[2]

Ffrainc a'r Hapsburgiaid[golygu]

Ym 1511, datganodd y Pab Julius II Gynghrair Sanctaidd yn erbyn Ffrainc. Tyfod y gynghrair yn gyflym i gynnwys nid yn unig Sbaen a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ond hefyd Lloegr. Penderfynnodd Harri ddefnddio'r digwyddiad fel esgus i ymestyn ei ddeiliadau yng ngogledd Ffrainc. Casglodd Gytundeb San Steffan, sef addewid o gymorth cilyddol gyda Sbaen yn erbyn Ffrainc, ym mis Tachwedd 1511, a paratodd i gymryd rhan yn Rhyfel Cynghrair Cambrai. Ym 1513, goresgynodd Harri Ffrainc a gorchfygwyd y fyddin Ffrengig gan ei luoedd ym Mrwydr y Spurs. Goresgynodd ei frawd-yng-nghyfraith, Iago IV, brenin yr Alban Loegr yn ôl ewyllys Louis XII, brenin Ffrainc,[5] ond ni lwyddodd i ddenu sylw Harri oddiar Ffrainc. Cafodd yr Albanwyr eu gorchfygu'n drychinebus ym Mrwydr Flodden Field ar 9 Medi 1513. Ymysg y marw roedd brenin yr Alban, a daeth a'r frwydr a ymglymiad yr Alban yn y rhyfel i ben.

Ar 18 Chwefror 1516, roddodd y frenhines Catrin eni i blentyn cyntaf Harri i oroesi genedigaeth, Mari, Tywysoges Lloegr, a deyrnasodd yn ddiweddarach fel Mari I, brenhines Lloegr. (Ganwyd mab, Harri, Dug Cernyw, ym 1511 ond goroesodd ychydig wythnosau yn unig.)

Ei chwe gwraig[golygu]

Gweler hefyd:

Plant[golygu]

Rhagflaenydd:
Harri VII
Brenin Lloegr
22 Ebrill 150928 Ionawr 1547
Olynydd:
Edward VI
Rhagflaenydd:
Arthur Tudur
Tywysog Cymru
18 Chwefror 150422 Ebrill 1509
Olynydd:
Harri Stuart

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Crofton, tud.128.
  2. 2.0 2.1 Crofton, tud.129
  3. Churchill, tud.29
  4. Crofton, tud.126.
  5. Guicciardini, History of Italy, 280.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • The New World gan Winston Churchill (1966)
  • The Reformation Parliament, 1529-1536 gan Stanford E. Lehmberg (1970)
  • Henry VIII and his Court gan Neville Williams (1971)
  • The Life and Times of Henry VIII gan Robert Lacey (1972)
  • The Six Wives of Henry VIII gan Alison Weir (1991) ISBN 0802136834
  • English Reformations gan Christopher Haigh (1993)
  • Europe: A history gan Norman Davies (1998) ISBN 978-0060974688
  • Europe and England in the Sixteenth Century gan T. A. Morris (1998)
  • New Worlds, Lost Worlds gan Susan Brigden (2000)
  • Henry VIII: The King and His Court gan Alison Weir (2001)
  • British Kings & Queens gan Mike Ashley (2002) ISBN 0786711043
  • Henry VIII: The King and His Court gan Alison Weir (2002) ISBN 034543708X
  • Six Wives: The Queens of Henry VIII gan David Starkey (2003) ISBN 0060005505
  • The Kings and Queens of England gan Ian Crofton (2006)


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.