Merthyr Tudful

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r erthygl yma yn sôn am dref Merthyr Tudful. Am Fwrdeisdref Sirol Merthyr Tudful, gweler Merthyr Tudful (sir).
Gweler hefyd Merthyr (gwahaniaethu).

Cyfesurynnau: 51°44′34″N 3°22′41″W / 51.742892°N 3.3780491°W / 51.742892; -3.3780491

Merthyr Tudful
Merthyr Tydfil arms.png
Arfbais Merthyr Tydfil, gyda'i arwyddair:
Nid cadarn ond brodyrdde
Merthyr Tydfil is located in Cymru
Merthyr Tydfil

Merthyr Tydfil Y Deyrnas Unedig
Poblogaeth 30,483 
Cyfeirnod grid yr AO 04951 05809_region:GB_scale:25000 SO 04951 05809
Sir Merthyr Tydfil
Sir seremonïol Morgannwg Ganol
Gwlad Wales
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost MERTHYR TYDFIL
Rhanbarth cod post CF47
Cod deialu 01685
Yr Heddlu  
Tân  
Ambiwlans  
Senedd yr Undeb Ewropeaidd
Senedd y DU Merthyr Tydfil a Rhymni
Cynulliad Cymru Merthyr Tydfil a Rhymni
Rhestr llefydd: Y Deyrnas Unedig

Tref ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful yw Merthyr Tudful, ym Morgannwg, de Cymru, sydd 23 milltir (37 km) i'r Gogledd o Gaerdydd. Yn 2011 roedd ganddi boblogaeth o dros 59,500. Mae etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn ethol aelod i'r Cynulliad Cenedlaethol a Merthyr Tudful a Rhymni i Senedd San Steffan yn Llundain. Mae'r etholaeth hefyd yn rhan o Ranbarth De Ddwyrain Cymru ar gyfer ethol aelodau rhanbarthol y Cynulliad. Caiff ei hadnabod ledled y byd fel prifddinas cynhyrchu haearn yn ystod y chwyldro diwydiannol.

Mae'r dref yn ymestyn o gymer afonydd y Daf Fawr a'r Daf Fechan - i gyfeiriad Pontypridd rhwng 100-400 metr uwchlaw lefel y môr. Tyfodd y dref oherwydd ei daeareg gyfoethog, lle y palwyd tair math o garreg: glo, haearn a chalchfaen. Ar ben hyn, roedd glaw trwm yn peri i'r nentydd lifo'n gryf gan gynhyrchu ynni i droi peiriannau'r gwaith haearn.

Hanes[golygu]

Mae'r dystiolaeth ddynol yn mynd nôl i'r Oes Efydd, a cheir yn yr ardal grudiau, carneddau a chylchoedd cerrig, er fod llawer o'r olion wedi'u difethau gan yr holl gloddio a chwalu'r gwaith haearn.

Cododd y Rhufeiniaid gaer yn yr ardal, ym Mhenydarren a chododd y Normaniaid gastell ym Morlais. Roedd y dref yng nghartref Senghennydd yn Nheyrnas Morgannwg. Darostyngwyd y dref gan [[Gilbert de Clare yn ail hanner y 13eg ganrif.[1]

Adeiladodd yr Anghydffurfwyr gapel yng Nghwm-y-glo yn 1690, a chododd yr Undodiaid un yng Cefn Coed y Cymer yn 1747. Pan ddaeth y mewnlifiad o bobl yn y 19eg ganrif, ymunodd y rhan fwyaf gyda'r anghydffurfwyr. Y meistri tir a'r diwydianwyr cyfoethog oedd yn perthyn i Eglwys Loegr, fel mewn llawer o lefydd yng Nghymru.

Roedd yn ardal amaethyddol tan tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Erbyn 1801 roedd y boblogaeth dros 7,000. Erbyn 1831 roedd yn 30,000 a hyhi oedd y dref fwyaf yng Nghymru. Roedd y boblogaeth yn tyfu'n gyflymach ym Merthyr nag mewn unrhyw dref arall yng Nghymru.

Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd gwaith haearn yn bwysig iawn yng Nghymru ac roedd pedwar gwaith haearn pwysig ym Merthyr sef Gwaith Haearn Cyfarthfa (eiddo teulu Crawshay), Gwaith Haearn Dowlais, Gwaith Haearn Penydarren a Gwaith Haearn Plymouth. Ym 1831 daeth rhai blynyddoedd o aflonyddwch ymysg gweithwyr Merthyr a'r cyffiniau at uchafbwynt treisgar a adwaenir fel 'Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful' neu 'Wrthryfel Merthyr'.

Hen Neuadd y Dref, Merthyr, wedi ei hailwampio yn 2014

Geirdarddiad[golygu]

Yn ôl traddodiad, cysylltir Merthyr â santes Tudful, merch y brenin Brychan Brycheiniog, ac enwyd y dref ar ei hôl. Dywedir iddi gael ei lladd gan baganiaid yn 480; a honodd Iolo Morgannwg yr enwyd y fan y'i lladwyd ynddo yn 'Ferthyr' Tydfil i'w hanrhydeddu[2] Ystyr y gair Lladin Martyrium yw 'man cysegredig' a daw'r enw o'r gair 'merthyr' yn ei hail ystyr, sef "eglwys er cof i sant neu ar ei fedd, neu fynwent sanctaidd".[3] Ceir sawl enw lle yng Nghymru sy'n cynnwys 'Merthyr' gan gynnwys Merthyr Mawr ym Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Cynnog ym Mhowys.

Yr iaith Gymraeg[golygu]

Yn ôl Cyfrifiad 1891 roedd 68.4% o boblogaeth Merthyr, sef 75, 067 allan o gyfanswm o 110, 569 yn siarad Cymraeg.[4] Erbyn Cyfrifiad 1911, disgynnodd y ffigur hwn i 50.9%, sef 37, 469 allan o gyfanswm o 74, 596 (ibid.). Dengys ffigyrau Cyfrifiad 2011 fod 8.9% o boblogaeth Merthyr bellach yn siarad Cymraeg. [5]

Enwogion[golygu]

Ardaloedd[golygu]

Traphont Merthyr Tudful

Eglwysi[golygu]

Eglwys St Tudful
  • Capel Stryd Fawr y Bedyddwyr
  • Eglwys Santes Tudful, Caedraw
  • Eglwys Dewi Sant, Stryd Uchaf
  • Eglwys Ffynnon Santes Tudful, Y Chwarel (Saesneg: The Quar)
  • Eglwys Babyddol y Santes Fair, Pontmorlais

Eisteddfod Genedlaethol[golygu]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful ym 1881 a 1901. Am wybodaeth bellach gweler:

Chwaraeon[golygu]

Lleolir Bikepark Wales, parc beicio mynydd priodol cyntaf Prydain, ym Merthyr. [6]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008
  2. Farmer, David Hugh. (1978). "Tydfil". In The Oxford Dictionary of Saints.
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru, vol. III, tudalen 2436.
  4. Edwards, Hywel Teifi (2001). "Pennod 4: Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful 1881 ac 1901". In Edwards, Hywel Teifi. Merthyr a Thaf. Gwasg Gomer. tud. 100–110. ISBN 1 84323 025 9
  5. http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Cymorth/dataacystadegau/Pages/Cyfrifiad2011canlyniadauanewidiadauer2001.aspx/. Adalwyd Ebrill 2014
  6. http://www.bikeparkwales.com/


Dolenni allanol[golygu]