Merthyr Mawr
Pentref ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, de Cymru, yw Merthyr Mawr. Fe'i lleolir rhai milltiroedd i'r de o dref Pen-y-bont ar Ogwr, ar lan ogleddol Afon Ogwr.
Ystyr y gair merthyr yn yr enw yw 'eglwys (ar feddrod sant)'. Ceir croesau eglwysig wedi'u cofrestru gan Cadw yn yr eglwys, sef Croes Merthyr Mawr a Croes Tythegston.
Gerllaw'r pentref ceir Tywyn Merthyr Mawr, lle saethwyd rhai golygfeydd i'r ffilm enwog Lawrence of Arabia. Dyma'r ail tywyn mwyaf yn Ewrop, o ran uchder.
Yn ogystal mae dau gastell canoloesol, Castell Ogwr a Castell Candleston, yn daith gerdded hawdd i ffwrdd. Y pentref agosaf yw Ewenni, lle ceir Priordy Ewenni.
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bragle · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefn Cribwr · Corneli · Cwm Ogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Maesteg · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynydd Cynffig · Nant-y-moel · Notais · Pencoed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pen-y-fai · Y Pîl · Pontycymer · Porthcawl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre