Howard Winstone

Oddi ar Wicipedia
Howard Winstone
Ganwyd15 Ebrill 1939 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw30 Medi 2000 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpaffiwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Paffiwr Cymreig fu'n bencampwr pwysau plu y byd oedd Howard Winstone (15 Ebrill 1939 - 30 Medi 2000).

Ganed Winstone ym Merthyr Tydfil. Wedi iddo enill medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958, daeth yn baffiwr pwysau plu proffesiynol. Eddie Thomas oedd ei reolwr. Enillodd bob un o'i 34 gornest gyntaf, gan ddod yn bencampwr Prydain yn 1961, ac wedyn yn bencampwr Ewrop. Methodd yn ei dair ymgais gyntaf i ddod yn bencampwr y byd; cafodd ei guro dair gwaith gan y pencampwr Vicente Saldivar, ond ar y pedwaredd cynnig gorchfygodd Mitsunori Seki o Japan ym mis Mehefin 1968. Collodd ei deitl i Jose Legra mewn gornest ym Mhorthcawl ychydig fisoedd wedyn, a chyhoeddodd ei ymddeoliad.

Enwyd ef fel Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn 1963. Yn 2005, curodd Owen Money, Richard Trevithick, Joseph Parry a'r Arglwyddes Charlotte Guest am y teitl "Dinesydd Mwyaf Merthyr Tydfil" mewn pleidlais gyhoeddus.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Gwobrau
Rhagflaenydd:
Dai Rees
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1958
Olynydd:
Graham Moore
Rhagflaenydd:
Ivor Allchurch
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1963
Olynydd:
Lynn Davies
Rhagflaenydd:
Lynn Davies
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1967
Olynydd:
Martyn Woodroffe