Daeareg
Oddi ar Wicipedia
Astudiaeth o'r ddaear ffisegol yw Daeareg neu Geoleg (Groeg: γη- sef ge-, "y ddaear" a λογος, sef logos, "gwyddoniaeth"). Mae'n cynnwys astudiaeth o gerrig a chramen y Ddaear. Rhennir hanes y ddaear yn gyfnodau daearegol.
[golygu] Cadwraeth
Mae'r Cyngor Cadwraeth Natur yn dewis safleodd pwysig er mwyn eu gwarchod ac yn eu rhestru ar yr Arolwg Cadwraeth Daearegol (ACD). Mae dau fath o safle sef Safle Daearegol Rhanbarthol Pwysig (SDRhP) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA).
[golygu] Rhanaiadau yn yr Oes Palaeosoig
Mae'r tri rhaniad neu gyfnod wedi eu henwi ar ôl hynafiaethau Cymreig neu Geltaidd, sef y cyfnodau:
- Cambriaidd (yr enw Lladin am Gymru)
- Ordofigaidd - 490 - 70 miliwn o flynyddoedd yn ôl
- Silwraidd - 408.5 - 443.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl
- Gweler hefyd: Daeareg Cymru
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i: