Yr Alban

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Alban)
Neidio i: llywio, chwilio
Am ystyron eraill, gwler Alban (gwahaniaethu)
Alba
Scotland

Yr Alban
Baner yr Alban
(Baner) (Arfbais)
Arwyddair: In My Defens God Me Defend
Anthem: Flower of Scotland neu Scots wha hae (answyddogol)
UKScotland.png
Ieithoedd Saesneg, Gaeleg, Sgoteg
Prifddinas Caeredin
Dinas fwyaf Glaschu/Glasgow
Gweinidog Cyntaf Alex Salmond
Arwynebedd 78,782 km²
Poblogaeth
Cyfrifiad 2001
Amcangyfrif 2005
Dwysedd

5,062,011
5,094,800
64/km²
Arian breiniol Punt (£) (GBP)
Cylchfa amser
- Haf:
UTC
UTC +1
Blodyn cenedlaethol Ysgallen
Nawddsant Sant Andreas

Gwlad yng ngogledd orllewin Ewrop yw'r Alban (hefyd Sgotland) (Gaeleg: Alba, Sgoteg a Saesneg: Scotland). Mae'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd Prydain, enwog am ei wisgi ardderchog.

Sant Andreas, un o apostolion Iesu Grist, yw nawddsant yr Alban - y 30ain o Dachwedd yw dyddiad dygwyl Sant Andreas.

Yr oedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y 18fed ganrif. Ar y 26ain o Fawrth 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd senedd yr Alban yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain.

Siaredir dwy iaith frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg - Gaeleg a Sgoteg. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.

Yr Alban
Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cynnwys

[golygu] Daearyddiaeth

Prif erthygl: Daearyddiaeth yr Alban.

[golygu] Hanes

Prif erthygl: Hanes yr Alban.

[golygu] Hanes Cynnar

Dinistriodd y rhewlifoedd parhaus, a orchuddiai arwynebedd tir yr Alban yn llwyr, unrhyw olion o fodolaeth dynol yn ystod y cyfnod Oes Ganol y Cerrig. Credir i'r criwiau cyntaf o helwyr-gasglwyr gyrraedd yn yr Alban oddeutu 12,800 o flynyddoedd yn ôl, am fod yr iâ wedi diflannu wedi'r cyfnod rhewlifol olaf.[1][2]

Dechreuodd y setlwyr cyntaf adeiladu eu tai parhaol cyntaf yn yr Albaen tua 9,500 o flynyddoedd yn ôl, a gwelwyd y pentrefi cyntaf tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Daw'r pentref Skara Brae ar prif dir Orkney o'r cyfnod hwn. Mae cynefinoedd Neolithig, safleoedd claddu a defodau yn gyffredin iawn yn Ynysoedd y Gogledd ac Ynysoedd y Gorllewin, lle roedd prinder o goed wedi arwain at y rhan fwyaf o adeiladau'n cael eu codi o garreg.[3]

[golygu] Diwylliant

Prif erthygl: Diwylliant yr Alban.

[golygu] Economi

Prif erthygl: Economi yr Alban.

[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Y dystolaeth cynharaf y gwyddir amdano ydy pen saeth fflint o Islay. Gweler Moffat, Alistair (2005) Before Scotland: The Story of Scotland Before History. London. Thames & Hudson. Tudalen 42.
  2. Mae safleoedd yn Cramond i 8500 CC a ger Kinloch, Rùm o 7700 CC yn darparu tystiolaeth fod bod dynol wedi trigo yn yr Alban. Gweler "The Megalithic Portal and Megalith Map: Rubbish dump reveals time-capsule of Scotland's earliest settlements" megalithic.co.uk. Adalwyd ar 10-02-2008 a Edwards, Kevin J. a Whittington, Graeme "Vegetation Change" in Edwards, Kevin J. & Ralston, Ian B.M. (Eds) (2003) Scotland After the Ice Age: Environment, Archaeology and History, 8000 BC–AD 1000. Edinburgh. Edinburgh University Press. Tudalen 70.
  3. (2003) Britain BC. London: HarperPerennial. ISBN 978-0007126934
Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato



Blodau Grug Gwledydd Celtaidd Sbiral triphlyg

Yr Alban | Cernyw | Cymru | Iwerddon | Llydaw | Manaw

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill