Cenedlaetholdeb Albanaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad yr Alban (yn goch) o fewn y Deyrnas Unedig

Mae Cenedlaetholdeb Albanaidd yn dueddiad gwleidyddol o blaid annibyniaeth neu ymreolaeth wleidyddol yn yr Alban. Mae agweddau gwleidyddol a diwylliannol i'r ideoleg hon. Unwyd yr Alban â Lloegr (i greu'r Deyrnas Unedig) yn dilyn Deddf Uno 1707. Ni chymhathwyd rhai sefydliadau, fel y gyfraith, yr eglwys, ac addysg, ac mae hyn wedi helpu cadw teimlad o hunaniaeth ddiwylliannol a chenedligrwydd yn y wlad sy'n parhau heddiw.

Yn wahanol i genedlaetholdeb yng Nghymru, cymharol wan ydyw'r pwyslais ar iaith yng nghenedlaetholdeb yr Alban.

Mae barn yr Albanwyr am annibyniaeth wedi amrywio'n sylweddol ers y Ddeddf Uno. Darganfuwyd arolwg gan ICM yn Nhachwedd 2006 bod 51% o'r Albanwyr o blaid annibyniaeth.[1]

Hanes[golygu]

Senedd yr Alban[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Senedd yr Alban

Pan ddaeth Llafur Newydd yn llywodraeth Prydain ym Mai 1997, daeth ymreolaeth i'r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Llundain yn rhan o'r agenda. Cynhaliwyd refferendwm ym Medi'r un flwyddyn am sefydlu senedd i'r Alban, a phleidleisiodd 75% o blaid. Pasiwyd Deddf yr Alban yn 1998 i greu Senedd yr Alban, gyda phwerau dros faterion megis amaeth, addysg, yr amgylchedd, iechyd, y gyfraith, llywodraeth leol, cludiant cyhoeddus, a thwristiaeth. Llafur oedd y blaid â'r mwyaf o seddi yn y senedd tan etholiad mis Mai 2007 pan ddaeth Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) yn blaid fwyaf.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Pôl: Mwy o blaid annibyniaeth", BBC, 2 Tachwedd, 2006.

Cysylltiadau allanol[golygu]