Andreas
Oddi ar Wicipedia
Un o'r deuddeg Apostol oedd Sant Andreas (Groeg: Ανδρέας, Andreas). Roedd yn frawd i Simon Pedr ac yn fab i Jonah.
Ceir ei hanes yn y Testament Newydd. Roedd yn frodor o bentref Bethsaida, Galilea, ac yn bysgotwr ar Fôr Galilea pan alwyd ef a'i frawd Pedr gan Iesu fel un o'i ddeuddeg disgybl. Dywedir ei fod cyn hynny yn ddisgybl i Ioan Fedyddiwr.
Dywedir iddo gael ei ferthyru yn ninas Patras yng Ngwlad Groeg trwy gael ei groeshoelio ar groes o'r ffurf a elwir yn Crux decussata neu Groes Sant Andreas, ar ffurf X. Ei ddydd gŵyl yw 30 Tachwedd. Mae'n nawdd-sant Yr Alban, Rwsia, Sicilia, Gwlad Groeg, Romania, Amalfi, Luqa (Malta) a Prwsia, hefyd yn nawdd-sant pysgotwyr a llongwyr.