Hanes yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y cyfnod Rhufeinig[golygu]

Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn cofnodi ymgyrch ei dad-yng-nghyfraith Agricola, llywodraethwr Prydain, yn yr Alban a'i fuddugoliaeth dros y Caledoniaid dan Calgacus ym Mrwydr Mons Graupius yn y flwyddyn 83 neu 84. Fodd bynnag galwyd Agricola yn ôl i Rufain yn fuan wedyn, ac ymadawodd y Rhufeiniaid o'r tiriogaethau hyn. Adeiladwyd Mur Hadrian, yn dilyn ymweliad yr Ymerawdwr Rhufeinig Hadrian a Phrydain yn 122, gryn bellter i'r de o'r ffin bresennol rhwng yr Alban a Lloegr. Ychydig yn ddiweddarach, rhwng 142 a 144, adeiladwyd Mur Antoninus, oedd yn cynnwys Iseldiroedd yr Alban o fewn ffiniau'r Ymerodraeth.

Ugain mlynedd yn ddiweddarch, yn 164, tynnodd y Rhufeiniaid eu milwyr oddi ar y mur yma ac encilio i Fur Hadrian. Wedi cyfres o ymosodiadau yn 197, daeth yr ymerawdwr Septimius Severus i'r Alban yn 208, a thrwsiodd rannau o'r mur. Ychydig flynyddoedd wedyn, enciliodd y Rhufeiniaid eto, ac adfeiliodd y mur.

Ffurfio'r deyrnas unedig[golygu]

Yn y cyfnod wedi i'r Rhufeiniaid ymadael, roedd nifer o deyrnasoedd annibynnol yn yr Alban. Roedd rhain yn cynnwys teyrnas y Pictiaid yn y gogledd-ddwyrain, teyrnas Gaeleg ei hiaith Dál Riata yn y gogledd-orllewin a theyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd, yn cynnwys Ystrad Clud a'r Gododdin. Unwyd teyrnas y Pictiaid a theyrnas Dál Riata gan Cináed mac Ailpín tua 850. Ymgorfforwyd Ystrad Clud yn y dernas unedig tua 1018.

Rhyfeloedd Annibyniaeth[golygu]

Robert Bruce yn annerch ei filwyr cyn Brwydr Bannockburn.

Ar 19 Mawrth 1286 lladdwyd y brenin Alexander III mewn damwain, heb adael aer amlwg i'r goron. Gan fod nifer o hawlwyr, gofynnwyd i Edward I, brenin Lloegr ddewis rhyngddynt, ond manteisiodd ef ar y cyfle i hwalio ei orcuchafiaeth ar yr Alban. Enwodd ef John Balliol yn frenin, ond pan wrthryfel Balliol yn erbyn Edward, ymosododd Edward arno a'i ddiorseddu. Am gyfnod, roedd yr Alban bron i gyd dan reolaeth Edward. Gwrthwynebwyd ef gan William Wallace, a enillodd Frwydr Pont Stirling yn ei erbyn, ond yna a orchfygwyd ym Mrwydr Falkirk. Bradychwyd Wallace a'i ddwyn i Lundain i'w ddienyddio yn 1305, ac unwaith eto ymddangosai rheolaeth Edward ar yr Alban yn ddiogel.

Ar 10 Chwefror, 1306, trefnwyd cyfarfod rhwng Robert Bruce a John Comyn, y ddau yn gallu hawlio coron yr Alban, yn Dumfries. Aeth yn gweryl, a lladdwyd Comyn ger allor yr eglwys. Gan sylweddoli fod yn rhaid iddo hawlio'r goron neu ffoi, cyhoeddodd Bruce ei hun yn frenin yr Alban, fel Robert I. Ym mis Mehefin 1306 gorchfygwyd Robert ym mrwydr Methven ac yna bu bron iddo gael ei ddal yn Strathfillan. Yn 1307 daliodd Edward wraig Robert, Elizabeth, a'i ferch, Marjorie. Bu farw Edward I ar 7 Gorffennaf, a dilynwyd ef gan ei fab, Edward II, oedd yn llawer llai galluog fel milwr.

Bu Robert a'i ddilynwyr yn ymladd rhyfel taro a rhedeg am rai blynyddoedd. Daliwyd ei frodyr Thomas ac Alexander, a'u dienyddio. Yn raddol enillodd dir, fodd bynnag, gan orchfygu y Saeson yn Glen Trool, gorchfygu Aymer de Valence, 2il Iarll Penfro ym mrwydr Loudoun Hill, ac yna gorchfygu John Comyn, 3ydd Iarll Buchan ym mrwydr Inverurie ym mis Mai 1308. Yn 1314 enillodd fuddugoliaeth ysgubol dros Edward II ym Mrwydr Bannockburn.

Parhaodd yr ymladd am flynyddoedd eto, gyda Edward, brawd Robert, yn ymgyrchu yn Iwerddon. Ym Mai 1328 arwyddodd Edward III, brenin Lloegr Gytuneb Caeredin-Northampton, oedd yn cydnabod yr Alban fel gwlad annibynnol a Robert fel ei brenin.

Uno a Lloegr[golygu]

Ar 24 Mawrth 1603 bu Elisabeth I, brenhines Lloegr farw yn ddi-blant. Etifedd cyfreithiol coron Lloegr oedd Iago VI, brenin yr Alban, a daeth ef yn Iago I, brenin Lloegr. Roedd yn ddwy deyrnas yn parhau ar wahan, gyda senedd ymhob un, ond symudodd Iago i Lundain a Lloegr oedd yn cael fwyaf o sylw ganddo ef a'i fab, Siarl I.

Ymladdwyd Rhyfel Cartref yr Alban yn 1644 a 1645 rhwng y Brenhinwyr, cefnogwyr y brenin Siarl I a'r Cyfamodwyr, oedd wedi bod yn rheoli'r Alban ers 1639. Roedd y rhyfel yma yn rhan o gyfres Rhyfeloedd y Tair Teyrnas.

Prif gadfridog y Brenhinwyr yn yr Alban oedd James Graham, Ardalydd 1af Montrose. Cododd fyddin, yn bennaf yn Ucheldiroedd yr Alban, a chyda chymorth milwyr o Iwerddon enillodd gyfres o fuddugoliaethau dros fyddinoedd llawer mwy niferus y Cyfamodwyr. Yn y diwedd, bu'r Cyfamodwyr yn fuddugol, a gorfodwyd Montroese i adael yr Alban.

Ym mis Mawrth 1650, dychwelodd Montrose i ymladd dros y brenin Siarl II, ond gorchfygwyd ef ym Mrwydr Carbisdale, a dienyddiwyd ef yng Nghaeredin.

Unwyd yr Alban a Lloegr yn gyfreithiol gan Ddeddfau Uno 1707, dau Fesur Seneddol a basiwyd yn 1706 gan Senedd Lloegr ac yn 1707 gan Senedd yr Alban. Effaith y mesurau oedd uno'r ddwy senedd, a throi Teyrnas Lloegr a theyrnas yr Alban, o fod yn ddwy wladwriaeth ar wahan oedd yn rhannu yr un brenin, i fod yn un wladwriaeth. Daeth hyn i rym ar 1 Mai 1707. O hyn ymlaen rheolid gwledydd Ynys Prydain gan un Senedd yn Llundain.

Ar 23 Gorffennaf, 1745, glaniodd Charles Edward Stuart a saith cydymaith yn Eriskay yn Ucheldiroedd yr Alban, i gefnogi hawl ei dad i'r orsedd. Cododd faner ei dad yn Glenfinnan, a llwyddodd i godi digon o ddilynwyr i ymdeithio tua dinas Caeredin. Ar 21 Medi 1745, gorchfygodd fyddin y llywodraeth ym Mrwydr Prestonpans, ac erbyn Tachwedd roedd ganddo fyddin o 6,000. Ymdeithiodd tua'r de, gan anelu am Lundain, a chyrhaeddodd cyn belled a Derby. Yma, oherwydd diffyg cefnofaeth gan Jacobitiaid Lloegr, penderfynwyd troi'n ôl am yr Alban. Gorchfygwyd ei fyddin gan fyddin y llywodraeth dan William Augustus, Dug Cumberland ar 16 Ebrill 1746 ym Mrwydr Culloden. Bu Charles ar ffô yn Ucheldiroedd yr Alban am fisoedd cyn medru dychwelyd i Ffrainc ym mis Medi. Bu fyw yn Ffrainc a'r Eidal hyd ei farwolaeth.

Yn ystod ail hanner y 18fed ganrif a hanner cyntaf y 19eg ganrif, diboblogwyd Ucheldiroedd yr Alban i raddau helaeth gan broses Clirio'r Ucheldiroedd. Gorfodwyd tenantiaid i ymadael a'u tyddynod, er mwyn gwnwud lle i wartheg a defaid.

Gweler hefyd[golygu]


Blodau Grug Hanes y Gwledydd Celtaidd Sbiral triphlyg

Hanes yr Alban | Hanes Cernyw | Hanes Cymru | Hanes Iwerddon | Hanes Llydaw | Hanes Manaw

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid

Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato