Brwydr Mons Graupius

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun o'r 19eg ganrif o Calgacus yn traddodi ei araith cyn y frwydr.

Roedd Brwydr Mons Graupius yn frwydr yn yr Alban rhwng y Rhufeiniaid a'r Caledoniaid yn y flwyddyn 83 neu 84. Roedd yn rhan o ymgyrch Gnaeus Julius Agricola, Llywodraethwr Prydain, yn yr Alban. Ceir yr hanes gan Tacitus, mab-yng-nghyfraith Agricola.

Roedd Agricola wedi gyrru ei lynges o'i flaen i ddychryn y brodorion, a symudodd tua'r gogledd gyda llengfilwyr a milwyr cynorthwol, y rhan fwyaf ohonynt o lwyth y Batavii. Ymddengys fod tua 20,000 yn y fyddin Rufeinig, ac wynebwyd hwy gan fyddin o tua 30,000 o gynghrair y llwythau Caledonaidd. Gyrroedd Agricola y milwyr cynorthwyol yn erbyn y Caledoniaid, oedd ar dir uwch. Gwthiwyd y Caledoniaid yn ôl, ac yna defnyddiodd Agricola y gŵyr meirch i selio'r fuddugoliaeth. Yn ôl Tacitus, ni fu raid i Agricola alw ar y llengfilwyr o gwbl. Dywed hefyd fod 10,000 o Galedoniaid wedi eu lladd ac mai dim ond 360 oedd colledion y Rhufeiniaid.

Rhoddodd Tactitus araith enwog i arweinydd y Caledoniaid, Calgacus, cyn y frwydr. Mae'n gorffen:

Ond nid oes unrhyw lwythau tu draw i ni, dim byd ond tonnau a chreigiau, a'r Rhufeiniaid, mwy dychrynllyd na hwythau, gan mai ofer ceisio osgoi eu gormes trwy ufuddod a gostyngiad. Lladron y byd, wedi dihysbyddu'r tir trwy eu rhaib, maent yn ysbeilio'r dyfnderoedd. Os yw'r gelyn yn gyfoethog, maent yn farus; os yw'n dlawd maent yn ysu am arglwyddiaeth drosto; nid yw'r dwyrain na'r gorllewin yn ddigon i'w bodloni. Yn unigryw ymysg dynion, maent yn chwennych tlodi a chyfoeth fel ei gilydd. Galwant ladrad, llofruddiaeth ac ysbeilio wrth yr enw celwyddog ymerodraeth; gwnant anialwch a'i alw yn heddwch. (Agricola 30).

Yn fuan wedyn, galwyd Agricola yn ôl i Rufain, ac olynwyd ef gan Sallustius Lucullus. Yn ôl Tacitus, Perdomita Britannia et statim missa; hynny yw roedd Agricola wedi cwblhau concwest holl Brydain, ond collwyd gafael arni wedi iddo ef adael. Mae dadlau ynghylch safle'r frwydr; un safle sydd wedi ennill cefnogaeth yw bryn Bennachie yn Swydd Aberdeen, ar y ffin rhwng Iseldiroedd ac Ucheldiroedd yr Alban.