Brwydr Culloden

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cofeb Brwydr Culloden.

Ymladdwyd Brwydr Culloden (Gaeleg: Blàr Chùil Lodair) ar 16 Ebrill, 1746, rhwng byddin y Jacobitiaid dan Charles Edward Stuart a byddin y llywodraeth Hanoferaidd dan William Augustus, Dug Cumberland, mab Sior II, brenin Prydain.

Ar 23 Gorffennaf, 1745, glaniodd Charles a saith cydymaith yn Eriskay yn Ucheldiroedd yr Alban, i gefnogi hawl ei dad i'r orsedd. Cododd faner ei dad yn Glenfinnan, a llwyddodd i godi digon o ddilynwyr i ymdeithio tua dinas Caeredin. Ar 21 Medi 1745, gorchfygodd fyddin y llywodraeth ym Mrwydr Prestonpans, ac erbyn Tachwedd roedd ganddo fyddin o 6,000. Ymdeithiodd tua'r de, gan anelu am Lundain, a chyrhaeddodd cyn belled a Derby. Yma, oherwydd diffyg cefnofaeth gan Jacobitiaid Lloegr, penderfynwyd troi'n ôl am yr Alban. Dilynwyd ef gan fyddin y llywodraeth dan William Augustus, Dug Cumberland.

Ymladdwyd y frwydr gerllaw pentref Culloden, heb fod ymhell o Inverness yn Ucheldiroedd yr Alban. O Ucheldiroedd yr Alban y deuai'r rhan fwyaf o fyddin y Jacobitiaid, tra'r oedd y fyddin Hannoferaidd yn cynnwys catrodau o Loger ac Iseldiroedd yr Alban. Yn rhannol oherwydd i Charles fynnu ymosod pan oedd ei filwyr dan anfantais, gorchfygwyd y Jacobitiaid yn llwyr. Bu Charles ar ffô yn Ucheldiroedd yr Alban am fisoedd cyn medru dychwelyd i Ffrainc ym mis Medi. Bu fyw yn Ffrainc a'r Eidal hyd ei farwolaeth.

Yn dilyn y frwydr, lladdwyd llawer o'r Ucheldirwyr gan fyddin Cumberland, ac enillodd ef yr enw "Butcher Cumberland". Pasiwyd deddfau i ddinistrio trefn gymdeithasol yr Ucheldiroedd, ac i wahardd eu gwisg draddodiadol. Dilynwyd hyn yn ddiweddarach gan broses Clirio'r Ucheldiroedd.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Prebble, John, Culloden, Atheneum 1962