Hanes yr Almaen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y cofnod cyntaf o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig yn byw yn y diriogeth sydd nawr yng ngwladwriaeth yr Almaen. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau o orllewin Afon Rhein yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn 9 OC. gorchfygwyd byddin Rufeinig dan Publius Quinctilius Varus gan gynghrair o lwythau Almaenig dan Arminius yn Mrwydr Fforest Teutoburg. Dinistriwyd tair lleng Rufeinig yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein.

Sefydlwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn y 9fed ganrif, a pharhaodd hyd 1806. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys Awstria, Slovenia, Gweriniaeth Tsiec, gorllewin Gwlad Pwyl, yr Iseldiroedd, dwyrain Ffrainc, y Swistir a rhan o ogleddyr Eidal. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y 16eg ganrif, a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig".

Rhwng 1618 a 1648, effeithiwyd yn fawr ar yr Almaen gan frwydrau y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Dechreuodd y rhyfel fel anghydfod crefyddol rhwng y Protestaniaid a'r Catholigion o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn raddol, tynnwyd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop i mewn i'r ymladd, llawer ohonynt am resymau heb gysylltiad a chrefydd. Ymladdwyd y rhan fwyaf o'r brwydrau yng nghanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Almaen. Gwneid llawer o ddefnydd o fyddinoedd o hurfilwyr, ac anrheithiwyd tiriogaethau eang ganddynt. Credir i boblogaeth y gwladwriaethau Almaenig ostwng o tua 30% yn ystod y rhyfel; yn Brandenburg roedd y colledion tua hanner y boblogaeth. Diweddodd y rhyfel gydag arwyddo Cytundeb Münster, rhan o Heddwch Westphalia.

Ffurfiwyd y Conffederasiwn Almaenig yn 1815, yna Ymerodraeth yr Almaen o 1871 hyd 1918. Daeth yr ymerodraeth i ben ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a ffôdd yr ymerawdwr Wilhelm II i'r Iseldiroedd.

Sefydlwyd Gweriniaeth Weimar yn 1919, ond dilynwyd y rhyfel gan gyni mawr, a wnaed yn waeth gan y teimlad gan ran o'r boblogaeth o ddarostyngiad cenedlaethol oherwydd Cytundeb Versailles. Yn 1933 daeth Adolf Hitler yn Ganghellor. Daeth diwedd ar Weriniaeth Weimar a dechreuodd y Drydedd Reich. Arweiniodd hyn at yr Ail Ryfel Byd 1939 - 1945. Wedi i'r Almaen gael ei gorchfygu, rhannwyd y wlad yn ddwy, Gorllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen. Parhaodd hyn hyd 1990, pan ad-unwyd y wlad.

Gweler hefyd[golygu]

Flag Germany template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.