Hanes Gweriniaeth Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Yr Arlywydd Éamon de Valera

Sefydlwyd y wladwriaeth a adwaenir yn awr fel Gweriniaeth Iwerddon yn 1922, pan enillodd 26 o siroedd Iwerddon annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Unedig. Arhosodd y chwe sir arall yn rhan o'r Deyrnas Unedig fel Gogledd Iwerddon.

Yn ôl y cytundeb a wnaed a llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Rhagfyr 1921, crewyd gwladwriaeth gyda'r teitl "Gwladwriaeth Rydd Iwerddon" (Gwyddeleg, Saorstat Eireann; Saesneg, Irish Free State). Roedd gan y gogledd yr hawl i ddewis peidio cael ei gynnwys yn y wladwriaeth newydd. Ar bleidlais o 64 to 57, cytunodd y Dáil i'r trefniant, a than arweiniad Michael Collins ac Arthur Griffith sefydlwyd y wladwriaeth newydd. Fodd bynnag, roedd carfan dan arweiniad Eamon de Valera yn gwrthwynebu'r cytundeb. Bu rhyfel cartref a barhaodd hyd 1923; lladdwyd Michael Collins ond yn y diwedd bu'r blaid oedd yn cefnogi'r cytundeb yn fuddugol.

Yn 1932, enillodd Eamon de Valera, oedd wedi ffurfio ei blaid ei hun, Fianna Fáil, yr etholiad cyffredinol. Ar 29 Rhagfyr 1937 daeth ef a chyfansoddiad newydd i rym, yn newid enw'r wladwriaeth i "Iwerddon" yn unig ac yn creu swydd Arlywydd. Ail-enwyd swydd y Prif Weinidog yn Taoiseach. Arhosodd Iwerddion yn niwrtal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar 1 Ebrill 1949, cyhoeddwyd y wladwriaeth yn weriniaeth, gyda'r arlywydd yn cymeryd y swyddogaethau oedd cynt wedi eu cadw i'r brenin. Er mai "Iwerddon" oedd yr enw swyddogol o hyd, daeth "Gweriniaeth Iwerddon" i gael ei ddefnyddio. Ymunodd a'r Cenhedloedd Unedig yn 1955 ac a'r Undeb Ewropeaidd yn 1973.

Aeth y Weriniaeth trwy gyfnod anodd yn economaidd tua diwedd y 1970au. Amrywiai'r llywodraeth rhwng y ddwy blaid fawr, Fianna Fáil a Fine Gael, gyda Charles Haughey yn Taoiseach dair gwaith a Garret FitzGerald ddwywaith yn ystod y 1980au. O ddechrau'r 1990au ymlaen, dechreuodd yr economi dyfu'n gyflym, ac erbyn dechrau'r 2000au Iwerddon oedd aelod ail-gyfoethocaf yr Undeb Ewropeaidd. Yn 1997 daeth Bertie Ahern yn Taoiseach.

Rhestr Prif Weinidogion Iwerddon ers 1937 (Taoisigh na hÉireann)[golygu]

# Enw Dechrau Swydd Gadael Swydd Plaid
1. Éamon de Valera 29 Rhagfyr, 1937 18 Chwefror, 1948 Fianna Fáil
2. John A. Costello 18 Chwefror, 1948 13 Mehefin, 1951 Fine Gael
Éamon de Valera (ail dro) 13 Mehefin, 1951 2 Mehefin, 1954 Fianna Fáil
John A. Costello (ail dro) 2 Mehefin, 1954 20 Mawrth, 1957 Fine Gael
Éamon de Valera (trydydd tro) 10 Mawrth, 1957 23 Mehefin, 1959 Fianna Fáil
3. Sean Lemass 23 Mehefin, 1959 10 Tachwedd, 1966 Fianna Fáil
4. Jack Lynch 10 Tachwedd, 1966 14 Mawrth, 1973 Fianna Fáil
5. Liam Cosgrave 14 Mawrth, 1973 5 Gorffennaf, 1977 Fine Gael
Jack Lynch (ail dro) 5 Gorffennaf, 1977 11 Rhagfyr, 1979 Fianna Fáil
6. Charles J. Haughey 11 Rhagfyr, 1979 30 Mehefin, 1981 Fianna Fáil
7. Garret FitzGerald 30 Mehefin, 1981 9 Mawrth, 1982 Fine Gael
Charles Haughey (ail dro) 9 Mawrth, 1982 14 Rhagfyr, 1982 Fianna Fáil
Garret FitzGerald (ail dro) 14 Rhagfyr, 1982 10 Mawrth, 1987 Fine Gael
Charles Haughey (trydydd tro) 10 Mawrth, 1987 11 Chwefror, 1992 Fianna Fáil
8. Albert Reynolds 11 Chwefror, 1992 15 Rhagfyr, 1994 Fianna Fáil
9. John Bruton 15 Rhagfyr, 1994 26 Mehefin, 1997 Fine Gael
10. Bertie Ahern 26 Mehefin, 1997 9 Mawrth, 2011 Fianna Fáil
11. Enda Kenny 9 Mawrth, 2011 presennol Fine Gael

Rhestr Arlywyddion Iwerddon[golygu]

# Enw Dechrau y Swydd Gadael y Swydd Plaid nodiadau
Comisiwn Arlywyddol 29 Rhagfyr, 1937 25 Mehefin, 1938 dros dro
1. Douglas Hyde 25 Mehefin, 1938 24 Mehefin, 1945 enwebwyd gan bob plaid
2. Seán T. O'Kelly 25 Mehefin, 1945 24 Mehefin, 1959 Fianna Fáil 2 dymor
3. Éamon de Valera 25 Mehefin, 1959 24 Mehefin, 1973 Fianna Fáil 2 dymor
4. Erskine Hamilton Childers 25 Mehefin, 1973 17 Tachwedd, 1974 Fianna Fáil Bu farw 17/11/74
Comisiwn Arlywyddol 17 Tachwedd, 1974 18 Rhagfyr, 1974 dros dro
5. Cearbhall Ó Dálaigh 19 Rhagfyr, 1974 22 Hydref, 1976 Fianna Fáil ymddiswyddodd 22/10/76
Comisiwn Arlywyddol 22 Hydref, 1976 2 Rhagfyr, 1976 dros dro
6. Patrick Hillery 3 Rhagfyr, 1976 2 Rhagfyr, 1990 Fianna Fáil 2 dymor
7. Mary Robinson 3 Rhagfyr, 1990 12 Medi, 1997 Llafur ymddiswyddodd 2 fis yn gynnar er mwyn dechrau swydd gyda'r Cenhedloedd Unedig
Comisiwn Arlywyddol 12 Medi, 1997 10 Tachwedd, 1997 dros dro
8. Mary McAleese 10 Tachwedd, 1997 10 Tachwedd 2011 Fianna Fáil
9. Michael D. Higgins 11 Tachwedd, 2011 heddiw Llafur

Gweler hefyd[golygu]