Arthur Griffith

Oddi ar Wicipedia
Arthur Griffith
Ganwyd31 Mawrth 1872 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 1922 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Galwedigaethdiplomydd, gwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd Dáil Éireann, Gweinidog Materion Tramor a Masnach, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Gweinidog Materion Tramor a Masnach, Gweinidog Cyfiawnder a Chyfartaledd Iwerddon, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • The United Irishmen Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSinn Féin Edit this on Wikidata

Arthur Griffith (Gwyddeleg: Art Ó Gríobhtha; 31 Mawrth 187112 Awst 1922) oedd sylfaenydd ac arweinydd cyntaf Sinn Féin. Roedd yn Arlywydd Dáil Éireann o Ionawr hyd Awst, ac yn bennaeth y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig a arweiniodd at annibyniaeth Iwerddon yn 1921.

Ganed Griffith yn Nulyn, o dras Cymreig. Fe hannai ei deulu mae’n debyg o Ddrws y Coed ger Llyn y Dywarchen yn Eryri, gyda‘r hen dŷ Drws-y-Coed ar ei draed yn y llun (fe'i chwalwyd i neud maes parcio bysgotwyr[1] O'r ty yma aeth teulu William Griffith i'r Iwerddon. Ar yr ochor dde olion hen stabal sydd yna. Cyfrannwyd y llun a’r sylw gan Elinor Roberts (ond pwy a’i paentiodd tybed? Ai’r enw P. Quint sydd yng nghornel dde isaf y llun?). Mae yna ddau adeilad yma; ai o un o rhain yr aeth teulu'r Griffith i'r Iwerddon. Fe aeth un o'r disgynyddion i fod yn sylfaenydd Sinn Fein, sef Arthur Griffith?

Bu'n gweithio fel argraffydd am gyfnod cyn ymuno a'r Cynghrair Gaeleg oedd yn anelu at adfer yr iaith Wyddeleg. Daeth yn aelod o'r Irish Republican Brotherhood (IRB). Bu yn Ne Affica am gyfnod, ac wedi dychwelyd i Ddulyn roedd yn o'r rhai a sefydlodd y papur wythnosol United Irishman, Yn 1910, priododd ei wraig, Maud; cawsant fab a merch.

Erbyn hyn roedd Griffith yn feirniadol iawn o'r Blaid Seneddol Wyddelig a'i thacteg o gydweithio a'r Blaid Ryddfrydol Brydeinig. Yn 1900, sefydlodd fudiad Cumann na nGaedheal (daeth wedyn yn enw ar blaid wleidyddol a lywodraethodd Iwerddon rhwng 1923-32) ac yn 1903 gyngor cenedlaethol i wrthwynebu ymweliad y brenin Edward VII o Loegr ag Iwerddon. Yn 1905, ymunodd hwn a chyrff eraill i ffurfio Cynghrair Sinn Féin ("Ni'n hunain"). Roedd yn ceisio cyfuno agweddau ar bolisiau Charles Stewart Parnell gyda'r traddodiad mwy milwriaethus. Polisi Sinn Féin oedd y byddai unrhyw aelodau a etholid i'r senedd yn Llundain yn gwrthod cymryd eu seddau.

Yn dilyn Gwrthryfel y Pasg bu cynnydd mawr yn y gefnogaeth i Sinn Féin. Etholwyd Griffith yn aelod seneddol dros Ddwyrain Cavan mewn is-etholiad yng nghanol 1918, ac yn yr etholiad cyffredinol ddiwedd y flwyddyn enillodd Sinn Féin fwyafrif mawr o seddau Iwerddon. Gwrthodasant fynd i'r senedd, gan sefydlu senedd Wyddelig Dáil Éireann. Dilynwyd hyn gan Ryfel Annibyniaeth Iwerddon yn erbyn y fyddin Brydeinig. Carcharwyd Griffith am gyfnod yn 1921.

Bedd Griffith ym Mynwent Glasnevin

.

Ym mis Hydref 1921, gofynnodd yr Arlywydd Éamon de Valera iddo fod yn arweinydd y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig. Ar ôl llawer o fargeinio daethpwyd i gytundeb cyn diwedd y flwyddyn, Cytundeb Eingl-Wyddelig; cyfaddawd o ran mai statws dominiwn oedd yn cael ei gynnig yn hytrach na gweriniaeth. Ymddiswyddodd de Valera mewn protest, a daeth Griffith yn Arlywydd, gyda Michael Collins yn bennaeth y llywodraeth ar y Wladwriaeth Rydd Iwerddon newydd. Erbyn hyn roedd iechyd Griffith yn dirywio, a bu farw ar 12 Awst, 1922, yn 50 oed. Claddwyd ef ym Mynwent Glasnevin.

Cofadail Goll[golygu | golygu cod]

Codwyd Cofadail i Griffith a Michael Collins ar lawnt Tŷ Leinster yn 1923. Symudwyd y gofadail dan orchymun de Valera, yn 1939.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]