Fine Gael

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo Fine Gael

Fine Gael – The United Ireland Party, neu Fine Gael (Gwyddeleg am Deulu neu Dylwyth y Gwyddelod) yw'r ail blaid wleidyddol fwyaf yng Ngweriniaeth Iwerddon ar ôl Fianna Fail. Mae'n hawlio aelodaeth o 30,000,[1] ac yn ffurfio'r wrthblaid fwyaf yn Dáil Éireann (senedd Gweriniaeth Iwerddon).

Sefydlwyd Fine Gael ar 3 Medi 1933 ar ôl uno ei mam-blaid Cumann na nGaedhael, y Centre Party a'r Army Comrades Association, neu'r "Blueshirts".[2] Gorwedd ei gwreiddiau yn Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon a'r pleidiau a fu o blaid y Cytundeb Eingl-Wyddelig yn Rhyfel Cartref Iwerddon, gan uniaethu yn enwedig â Michael Collins fel sefydlydd y mudiad.[3]

Mae'r Fine Gael fodern yn ei disgrifio ei hun fel plaid y canol progresif, a'i gwerthoedd canolog yn seiliedig ar bolisi ariannol gofalus, hawliau a dyletswyddau'r unigolyn a'r farchnad rydd. Maent yn gadarn o blaid integreiddio yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn gwrthwynebu gweriniaetholaeth Wyddelig dreisgar. Mewn cyd-destun ehangach, mae'r blaid yn perthyn i sbectrwm y pleidiau Democratiaeth Gristnogol yn Ewrop.[4] Fine Gael yw'r unig blaid Wyddelig sy'n rhan o Blaid Pobl Ewrop (EPP) yn Strasbourg; mae ei ASEau yn eistedd yn y grwp EPP-ED. Ffurfiwyd adain ieuenctid y blaid, Young Fine Gael, ym 1977 ac mae ganddi tua 4,000 o aelodau.[5]

Enda Kenny yw'r arweinydd cyfredol, ers 5 Mehefin 2002.[6]

Arweinwyr y blaid[golygu]

Arweinydd Cyfnod Etholaeth
Eoin O'Duffy 1933-34 Dim[7]
W. T. Cosgrave 1934-44 Carlow-Kilkenny
Richard Mulcahy 1944-59[8][9] Tipperary
James Dillon 1959-65 Monaghan
Liam Cosgrave 1965-77 Dún Laoghaire
Garret FitzGerald 1977-87 De-ddwyrain Dulyn
Alan Dukes 1987-90 De Kildare
John Bruton 1990-2001 Meath
Michael Noonan 2001-02 Dwyrain Limerick
Enda Kenny 2002-heddiw Mayo

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Join Fine Gael" 2007.
  2. Gerard O'Connell Hanes Fine Gael.
  3. The Irish Times. Legacy of the Easter Rising.
  4. Fine Gael: "Our Values".
  5. RTÉ News. [1].
  6. RTÉ News (5 June 2002). "Enda Kenny elected Fine Gael leader".
  7. Nid oedd gan O'Duffy sedd yn yr Oireachtas fel arweinydd y blaid.
  8. Pan fu Mulcahy yn aelod o Senedd Iwerddon ym 1944, gweithredodd Tom O'Higgins fel arweinydd seneddol.
  9. Rhwng 1948 a 1959, gwasanaethodd John A. Costello fel arweinydd seneddol.

Dolenni allanol[golygu]