Hanes Ynys Manaw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Rushen yn Castletown. Adeiladwyd y castell gan Magnus III, brenin Norwy.

Mae hanes Ynys Manaw yn hanes dylanwadau o'r gwledydd o'i chwmpas, yn enwedig yr Alban a Lloegr, ac hefyd ddylanwadau Llychlynnaidd cryf. Daeth Ynys Manaw yn ynys tua 8500 o flynyddoedd yn ôl wrth i lefel y môr godi. Hyd hynny roedd cysyslltiad tir gydag ardal Cumbria. Ychydig o gofnodion hanesyddol sydd ar gael o'r cyfnodau cynnar pan ymddengys bod poblogaeth yn siarad iaith Frythonig yn byw yno. Cofnodir i Edwin, brenin Northumbria ymosod ar yr ynys yn 616. O gwmpas y 10fed ganrif ymsefydlodd gwladychwyr o Iwerddon a datblygodd Manaweg, sy'n iaith Oidelig tebyg i Wyddeleg. Yn ôl traddodiad, daeth Sant Maughold (Maccul) o Iwerddon a Christionogaeth i'r ynys. Credir fod enw'r ynys yn dod o enw duw môr y Celtiaid, Manannán mac Lir.

Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn Frych, a ddaeth yn frenin Gwynedd tua 825, o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Ar groes ar Ynys Manaw mae arysgrif Crux Guriat. Credir fod y groes yn dyddio o'r wythfed neu'r nawfed ganrif, felly mae'n bosibl mai tad Merfyn oedd y "Guriat" yma.

Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar yr ynys rhwng 800 ac 815, ac o tua 850 ymlaen daeth dan reolaeth brenhinoedd Danaidd Dulyn. O tua 990 daeth yn eiddo Ieirll Orkney. Cynhyrchwyd darnau arian ar yr yns rhwng tua 1025 a tua 1065. Yn 1079 goresgynwyd yr ynys gan Godred Crovan oedd hefyd wedi goresgyn rhannau o Iwerddon, a sefydlodd linach o frenhinoedd gyda'r teitl Rex Manniae et Insularum. Roedd mab Godred, Olaf, yn frenin nerthol a llwyddodd i gadarnhau annibynniaeth yr ynys.

Yn ystod y cyfnod yma roedd Manaw, mewn theori o leiaf, yn rhan o deyrnas brenin Norwy. Gorfodwyd y brenin Ragnald i dalu gwrogaeth i John, brenin Lloegr yn nechrau'r 13eg ganrif, ond dylanwad yr Alban oedd gryfaf yn y cyfnod yma. Yn 1261, gyrrodd Alexander III, brenin yr Alban lysgennad i Norwy i geisio perswadio brenin Norwy i ollwng ei hawl ar yr ynys, a phan wrthododd ymladdwyd Brwydr Largs heb ganlyniad pendant. Bu farw Haakon Haakonsson brenin Norwy y flwyddyn wedyn, a chipiodd Alexander yr ynys. Nid oedd gafael yr Alban ar yr ynys yn ddiogel hyd 1275 pan drechwyd y Manawiaid ym Mrwydr Ronaldsway, ger Castletown.

Meddiannodd Edward I, brenin Lloegr yr ynys yn 1290, yna cipiwyd hi yn ôl gan Robert Bruce yn 1313. Am gyfnod bu Lloegr a'r Alban yn ymgiprys am reolaeth ar yr ynys, nes i Loegr ennill Brwydr Neville's Cross yn 1346 a gwanychu'r Alban ormod iddi fedru parhau'r ymryson. O hynny ymlaen bu'r ynys dan reolaeth gwahanol dirfeddiannwyr mawr o Loegr, yn arbennig teulu Stanley.

O 1866 cafodd Ynys Manaw fesur o hunanlywodraeth, a llwyddwyd i ddefnyddio lefelau isel o drethi i hybu economi'r ynys. Bu farw siaradwr olaf yr iaith Fanaweg yn y 1970au. Sefydlwyd pleidiau cenedlaethol Mec Vannin a'r MNP, yn ogystal a Fo Halloo ("Tan y ddaear"), fu'n paentio arwyddion a llosgi tai haf ar raddfa fechan.

Gweler hefyd[golygu]


Blodau Grug Hanes y Gwledydd Celtaidd Sbiral triphlyg

Hanes yr Alban | Hanes Cernyw | Hanes Cymru | Hanes Iwerddon | Hanes Llydaw | Hanes Manaw

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid