Merfyn Frych

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yr oedd Merfyn Frych, neu Merfyn Frych ap Gwriad (bu farw 844), yn frenin Gwynedd ar ddechrau'r nawfed ganrif.

Bywgraffiad[golygu]

Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn ers 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Ar groes ar Ynys Manaw mae arysgrif Crux Guriat. Credir fod y groes yn dyddio o'r wythfed neu'r nawfed ganrif, felly mae'n bosibl mai tad Merfyn oedd y "Guriat" yma. Efallai fod ei hawl ar orsedd Gwynedd trwy ei fam Esyllt, merch Cynan ap Rhodri Molwynog.

Gwnaeth Merfyn gynghrair â theulu brenhinol Powys trwy briodi'r Dywysoges Nest, merch Cadell ap Brochwel a chwaer Cyngen, brenin Powys. Er gwaethaf ymosodiadau gan y Daniaid, llwyddodd Merfyn i ddal ei afael ar ei deyrnas ac ar ei farwolaeth yn 844 daeth ei fab Rhodri Mawr yn frenin yn ei le.

Cyfeiriadau[golygu]

O'i flaen :
Hywel ap Rhodri Molwynog
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Rhodri Mawr ap Merfyn
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.