Rhodri Mawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Rhodri Mawr, enw llawn Rhodri ap Merfyn (c. 820878) oedd y brenin cyntaf i reoli'r rhan fwyaf o Gymru a'r cyntaf hefyd i gael ei alw'n "Fawr".

Yr oedd Rhodri yn fab i Merfyn Frych, a ddaeth yn frenin Gwynedd ar farwolaeth ei dad yn 844, a'r dywyoges Nest o Bowys. Pan fu ei ewythr Cyngen, brenin Powys, farw ar bererindod i Rufain yn 855, etifeddodd Rhodri ei deyrnas ef hefyd. Yn 872 boddwyd trwy ddamwain Gwgon ap Meurig, brenin Ceredigion a Seisyllwg, ac ychwanegodd Rhodri ei deyrnas yntau at ei feddiannau trwy ei briodas ag Angharad, chwaer Gwgon. Yr oedd yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru.

Yr oedd Rhodri yn gorfod wynebu pwysau gan yr Eingl-Sacsoniaid ac yn gynyddol gan y Daniaid hefyd, a fuont yn ôl y croniclau yn anrheithio Môn yn 854. Yn 856 enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid ym Mrwydr Llandudno gan ladd eu harweinydd Gorm (a elwir weithiau yn Horm). Mae dwy gerdd gan Sedulius Scotus wedi ei hysgrifennu yn llys Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y Llychlynwyr.

Cafodd Rhodri fuddugoliaeth arall yn erbyn y Daniaid ym Mrwydr Parciau yn 872.

Yn 877 ymladdodd Rhodri frwydr arall yn erbyn y Daniaid, ond y tro yma bu raid iddo ffoi i Iwerddon. Pan ddychwelodd y flwyddyn wedyn, dywedir iddo ef a'i fab Gwriad gael eu lladd gan wŷr Mersia, er na wyddir y manylion. Pan enillodd ei fab Anarawd ap Rhodri fuddugoliaeth dros wŷr Mersia ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe'i dathlwyd yn y brutiau fel "Dial Duw am Rhodri".

Llyfryddiaeth[golygu]

  • John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest(Longmans, Green & Co, 1911)
  • Ceinwen H. Thomas, "Rhodri Mawr", yn Ein Tywysogion (1954)
Rhagflaenydd:
Merfyn Frych ap Gwriad
Brenin Gwynedd
844878
Olynydd:
Anarawd ap Rhodri
Rhagflaenydd:
Cyngen ap Cadell
Brenin Powys
855878
Olynydd:
Merfyn ap Rhodri
Rhagflaenydd:
Gwgon
Brenin Seisyllwg
872878
Olynydd:
Cadell ap Rhodri