Hanes Albania

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae hanes Albania yn hir a diddorol. Mae'r wlad ei hun yn perthyn i ddiwylliant y Balcanau ond mae Groeg a'r Eidal, ynghŷd â Thwrci, wedi dylanwadu'n fawr arni hefyd a chwarae rhan bwysig yn ei hanes.

Un o'r digwyddiadau hanesyddol cyntaf yn y wlad yw sefydlu Durrës gan y Groegiaid mor bell yn ôl â'r 7fed ganrif CC.

Albania

Daeth y Rhufeiniaid i Albania a chodi dinasoedd yno. Rhedai un o'r ffyrdd Rhufeinig bwysicaf, y Via Egnatia, rhwng Durrës a Bysantiwm (Istanbul heddiw). Roedd de Albania yn rhan o dalaith Rufeinig Macedonia a'r gogledd yn rhan o dalaith Illyricum.

Rhwng diwedd y 15fed a dechrau'r 20fed ganrif bu Albania'n rhan o'r Ymerodraeth Ottoman. Yn y cyfnod hwn y troes y mwyafrif o'r Albaniaid yn Fwslemiaid a chwaraeoedd Islam ran bwysig yn hanes a bywyd diwylliannol y wlad ar ôl hynn. Cafodd y Tyrciaid ddylanwad mawr ar bensaernïaeth draddodiadol y wlad yn ogystal.

Yn 1912 enillodd Albania ei hannibyniaeth ar yr Ottomoniaid. Yn 1925, yn sgîl rhyfel cartref y cymerodd yr Eidal ran ynddo, aeth y wlad yn weriniaeth. Fodd bynnag troes yn fonarchiaeth unwaith yn rhagor yn 1928 pan gafodd ei harlywydd Ahmed Beg Zogu ei wneud yn frenin ar y wlad dan yr enw cofiadwy Brenin Zog. Cafodd y wlad ei meddianu gan luoedd arfog yr Eidal a'r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd troes Albania'n wlad gomiwnyddol yn 1946 dan arweinyddiaeth yr unben Enver Hoxha. Ar ôl cyfnod o fod yn gynghrair triw i Stalin, troes Albania i'r Tsieina Faoaidd o 1961 ymlaen. Erbyn heddiw mae hi'n wlad ddemocrataidd sy'n ceisio agoshau at weddill Ewrop gyda golwg tymor hir o ymuno yn yr Undeb Ewropeaidd.

Gweler hefyd[golygu]

Flag of Albania.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Albania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato